Henaint yn cael ei drafod yn ffilmiau Gŵyl Iris

  • Cyhoeddwyd
Cecil + CarlFfynhonnell y llun, Gŵyl Iris
Disgrifiad o’r llun,

Cecil + Carl yw un o'r ffilmiau sydd yn delio gyda'r thema o fynd yn hen

Mae gan gymdeithas "fetish am ieuenctid" ac mae mynd yn hen yn dabŵ, meddai cyfarwyddwr gŵyl sydd yn dangos ffilmiau sydd yn portreadu straeon pobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws.

Yn ôl Berwyn Rowlands mae hanner dwsin o ffilmiau yng Ngŵyl Iris eleni yn ymwneud â'r thema o fynd yn hŷn gan gynnwys y profiad o golli cymar, edrych ar ôl rhywun sydd yn sâl a'r afiechyd Alzheimers.

Mae'n credu nad ydy pobl yn gallu dygymod â'r ffaith fod corff person yn newid wrth fynd yn hŷn a bod hyn hefyd yn amlwg o fewn y gymdeithas hoyw.

"Pan mae 'na ddau berson yn eu 60au yn cusanu ar y sgrin, 'Uuurgh'. Oni bai bod nhw ar fin marw ac maen nhw mynd i ddweud tata neu sws ar y boch, wedyn mae o yn mynd yn rhywbeth neis," meddai.

"Ond os ydyn nhw yn going for it ac mae 'na dafodau ac yn y blaen, mae pobl bron iawn yn teimlo yn sâl. Mae 'na rywbeth mawr iawn o'i le yn hynny."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Iris
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o ffilm Thanks for Asking sydd ar y rhestr fer ar gyfer y ffilm ryngwladol orau

Eleni mae'r ŵyl ryngwladol, fydd yn cael ei chynnal rhwng 12-16 Hydref, yn dathlu ei phenblwydd yn 10 oed ac mae Berwyn Rowlands yn dweud ei bod hi wedi tyfu yn aruthrol.

"Mae'r syniad lle y byddet ti o fewn 10 mlynedd wedi creu sefyllfa o fewn y byd lesbiaidd a hoyw ffilm, fod Caerdydd yn enwog ac yn cael ei gydnabod fel cartref gŵyl bwysig fel Iris, fydden ni wedi glannau chwerthin."

Er ei fod yn cydnabod bod cymeriadau hoyw i weld mewn operâu sebon erbyn hyn mae'n dweud nad ydyn nhw'n dal i'w gweld mewn ffilmiau mawr yn y sinema.

"Os ydy ein storiâu ni yn ymddangos yn y mainstream maen nhw fel arfer yn disgyn i ystrydebau sef dod allan, delio efo rhywioldeb," esboniodd.

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Iris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Berwyn Rowlands yn dweud fod ei ddiddordeb mewn ffilmiau wedi cychwyn pan oedd yn blentyn bach

"Mae'r syniad o berson hoyw fel claf sydd yn dioddef, bod yr HIV wedi datblygu yn AIDS a bod nhw yn marw, mae hwnna wedi lleihau. Ond mi oedd hwn yn arfer bod yn un o'r stoc. Rydan ni o hyd yn byw mewn bywyd lle mae diffyg cyfle i weld chdi dy hun."

Mae'r rhestr fer ar gyfer ffilmiau rhyngwladol eleni wedi ei chyhoeddi ac yn cynnwys y nifer fwyaf erioed ac am y tro cyntaf un ffilm o Taiwan. 15 o ffilmiau sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ffilmiau byrion Prydain.

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Iris
Disgrifiad o’r llun,

Set y ffilm Afiach

Ymhlith y ffilmiau fydd yn cael eu dangos yn yr ŵyl ym mis Hydref fydd ffilm Gymraeg newydd, Afiach gan Bethan Marlow a hynny wedi i gynllun gael ei ddatblygu rhwng yr ŵyl, Ffilm Cymru ac S4C.

"Y teimlad oedd genyn ni oedd bod 'na ddiffyg cynnwys hoyw yn y Gymraeg, nid bod 'na ddiffyg cymeriadau hoyw ar Pobol y Cwm ac yn y blaen, ond yn gyffredinol y teimlad bod pobl ddim isio creu ffilm efo cymeriadau hoyw yn y Gymraeg, efo testunau hoyw," ychwanegodd Berwyn Rowlands.

Y gobaith ydy y bydd y ffilm hon i'w gweld yn y dyfodol ar S4C.