Pwll glo brig ym Mhowys yn cau gyda cholled o 75 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
glo brigFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd pwll glo brig ym Mhowys yn cau am gyfnod o ddwy flynedd gan arwain at golli 75 o swyddi.

Dywedodd perchnogion pwll Nant Helen, Celtic Energy, eu bod yn cau'r pwll gan bod gorsaf bŵer Aberddawan - sy'n defnyddio glo - yn lleihau eu gweithredoedd o fis Ebrill nesa'.

Ym mis Mehefin fe gyhoeddwyd cyfnod o ymgynghori gydag undebau, ac maen nhw wedi disgrifio'r cyhoeddiad fel "trist ond nid annisgwyl".

Nant Helen yw safle mwyaf Celtic Energy, ac mae oddeutu tair miliwn tunnell o lo yn y safle.

O'r 91 sy'n gweithio yno fe fydd 31 o ddiswyddiadau gwirfoddol a 44 o rai gorfodol - bydd tîm bychan yn aros ar y safle i wneud gwaith diogelwch a chynnal a chadw.

Dywedodd prif weithredwr Celtic Energy, Will Watson, bod y cwmni'n "hyderus o fedru ailagor y gwaith ymhen tua dwy flynedd".