Deiseb yfed a gyrru'n croesi'r 100,000

  • Cyhoeddwyd
Miriam BriddonFfynhonnell y llun, TEULU BRIDDON
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Miriam Briddon mewn gwrthdrawiad ym mis Mawrth 2014

Mae deiseb sy'n galw am ddedfrydau llymach i yrwyr sy'n lladd tra'n gyrru dan ddylanwad alcohol wedi croesi'r trothwy sydd ei angen iddo gael ei ystyried ar gyfer dadl yn Nhŷ'r Cyffredin.

Cafodd deiseb 'Moment i Miriam' ei dechrau gan deulu Miriam Briddon, gafodd ei lladd gan yrrwr oedd dan ddylanwad alcohol.

Roedd y ferch 21 oed o Cross Inn ger Cei Newydd yng Ngheredigion yn gyrru ar ffordd yr A482 ger Ciliau Aeron pan fuodd ei char mewn gwrthdrawiad â char arall ym mis Mawrth 2014.

Cafodd Gareth Entwistle, oedd yn gyrru'r car arall, ei garcharu am bum mlynedd a hanner ym mis Hydref 2015, wedi iddo gyfaddef iddo achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal tra'n feddw.

Ond, wedi iddo apelio, cafodd ei ddedfryd ei gwtogi i bum mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Gareth Entwistle cyn iddo gael ei garcharu

Mae teulu Miriam yn galw am newid yn y gyfraith er mwyn rhoi cosbau llymach i yrwyr sy'n lladd tra'n gyrru dan ddylanwad alcohol.

Ychydig dros fis ers dechrau casglu llofnodion, mae dros 105,000 o bobl wedi cefnogi'r ddeiseb.

Can mil o lofnodion sydd eu hangen ar ddeiseb cyn y bydd Llywodraeth Prydain yn ystyried cynnal dadl.

Y cam nesaf

Dydy'r ddeiseb ddim wedi ei chyflwyno i Lywodraeth Prydain eto ond dywedodd mam Miriam, Ceinwen Briddon wrth BBC Cymru Fyw mai dyna'r bwriad.

"Nethon ni benderfyniad fel teulu ein bod ni'n mynd i gasglu 100,000 o lofnodion cyn symud ymlaen," meddai.

"Y cam nesa' i ni nawr yw cysylltu gyda swyddfa Theresa May yn uniongyrchol - hala llythyr iddi hi, a mynd â'r ddeiseb i Lundain."

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud eu bod ystyried cosbau'n ymwneud â throseddau yfed a gyrru ar hyn o bryd.