Poenydio offeiriad: Achos wedi'i ollwng yn Yr Eidal
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Ddinbych oedd wedi'i gyhuddo o boenydio offeiriad Catholig wedi cael gwybod na fydd yn wynebu achos cyfreithiol, ond y bydd rhaid iddo dalu ffioedd cyfreithiol.
Aeth Mark Murray o Lanelwy i'r Eidal y llynedd i wynebu'r Tad Romano Nardo, oedd yn arfer bod yn athro arno yn Sir Efrog yn y 1960au hwyr.
Roedd Mr Murray yn honni bod y Tad wedi ei gam-drin pan oedd yn ifanc.
Cafodd y digwyddiad yn Yr Eidal ei ffilmio gan bapur newydd La Repubblica, wnaeth ei roi ar eu gwefan.
Roedd y fideo yn dangos Mr Murray yn dweud wrth yr offeiriad am yr effaith negyddol yr oedd wedi ei gael ar ei fywyd, ac fe aeth y Tad ar ei liniau i ofyn am faddeuant.
Yn gynharach eleni cafodd Mr Murray orchymyn i ymddangos yn y llys am y digwyddiad, ac fe gafodd wrandawiad ei gynnal yn ninas Verona yn ei absenoldeb yr wythnos diwethaf.
Mae'r barnwr bellach wedi gollwng yr achos yn ei erbyn ar ôl dod i'r canlyniad na wnaeth Mr Murray boenydio'r Tad Nardo, ac nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd.
Ond mae Mr Murray nawr wedi cael gwybod gan ei gyfreithiwr yn Yr Eidal y bydd rhaid iddo dalu ei gostau cyfreithiol, er mai Urdd y Tad wnaeth gyflwyno'r achos yn ei erbyn ef.
Roedd Mr Murray yn un o 11 dyn ddaeth i setliad gydag Urdd y Comboni yn ymwneud â thrais yn y 1960au a 70au ym Mirfield, Sir Efrog, ble roedd yn astudio i fod yn offeiriad.
Ond er y cytundeb hwnnw, dyw'r Eglwys ddim wedi cyfaddef eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2016