Cyngor Wrecsam yn cymeradwyo strategaeth y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo strategaeth bum mlynedd ar gyfer y Gymraeg, er mwyn sicrhau fod y sir yn cyd-fynd a chynllun Safonau Iaith Comisiynydd y Gymraeg.
Mae'r strategaeth wedi ei chymeradwyo ar yr amod bod nifer o fân newidiadau yn cael eu gwneud i'r ddogfen ddrafft.
Mae'r comisiynydd, Meri Huws, wedi gosod Safonau Iaith ar gyfer pob un o 22 o awdurdodau lleol Cymru.
Cafodd Cyngor Wrecsam ei feirniadu gan ymgyrchwyr iaith ar ôl honni y byddai gweithredu pob un o argymhellion y Comisiynydd yn rhy gostus.
Dywedodd y cyngor yn wreiddiol y byddai'n costio £700,000 i gydymffurfio gyda'r Safonau, cyn lleihau'r ffigwr i £250,000.
Yn dilyn apêl gan y Cyngor, dywedodd y Comisiynydd fod angen iddynt gydymffurfio gyda 171 o Safonau.
Dywed y cyngor eu bod eisoes yn cyd-fynd gyda'r rhan fwyaf.
Mae nifer o'r Safonau yn ymwneud â hawliau swyddogion y Cyngor i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle.
Bu cynghorwyr y sir yn trafod strategaeth yr awdurdod ddydd Mawrth, er mwyn ceisio sicrhau eu huchelgais o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yno.
Mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd.
Yn 2001 roedd 14.6% (18,102) o'r boblogaeth yn siarad yr iaith, ond erbyn 2011 roedd hyn wedi gostwng 1.7% i 12.9% (16,659).
Dywed y cyngor eu bod am weld y niferoedd yn codi yn ôl i lefelau 2001 o fewn y pum mlynedd nesaf.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin ennill apêl yn erbyn rhai Safonau Iaith, sy'n golygu na fydd yn rhaid iddyn nhw eu gweithredu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2016