Gohirio alltudio dyn o Gaerdydd i Afghanistan
- Cyhoeddwyd
Ni fydd dyn 19 oed yn cael ei alltudio o Brydain wedi'r cwbl wedi i weinidog yn y llywodraeth orchymyn atal hynny oriau cyn i'w awyren adael.
Fe wnaeth oddeutu 5,600 o bobl arwyddo deiseb i atal Bashir Nadir, sydd wedi byw yng Nghaerdydd ers naw mlynedd, rhag cael ei alltudio i Afghanistan ddydd Llun.
Dywedodd AS Canol Caerdydd, Jo Stevens, bod y gweinidog mewnfudo Robert Goodwill wedi atal yr alltudiad.
Dywedodd y Swyddfa Gartref nad ydyn nhw'n fodlon gwneud sylwadau ar achosion unigol.
Roedd Mr Nadir yn cael ei gludo mewn fan gyda swyddogion diogelwch o ganolfan yn Sir Rhydychen i faes awyr Gatwick ddydd Llun. Roedd i fod i deithio ar awyren am 16:45.
Dywedodd Ms Stevens wrth BBC Cymru bod y gweinidog wedi gorchymyn "gohirio'r weithred".
Fe allai gael ei alltudio rhywdro yn y dyfodol.