ACau'n cefnogi cais dyn o Gaerdydd i aros yn y DU
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o bob plaid yn y Cynulliad wedi dod ynghyd i gefnogi'r ymgyrch i atal dyn ifanc o Gaerdydd rhag cael ei alltudio i Afghanistan.
Cafodd y broses o alltudio Bashir Naderi, sydd wedi byw yn y DU ers naw mlynedd, ei gohirio gan farnwr ddiwedd Hydref.
Mae deiseb o gefnogaeth wedi cael ei lofnodi gan 11,000 o bobl.
Dywedodd AS Llafur, Jenny Rathbone, bod y gefnogaeth drawsbleidiol i'w achos yn "galonogol."
Myfyriwr paentio ac addurno yng Ngholeg Caerdydd a'r Cymoedd oedd Mr Naderi cyn i'r broses o'i alltudio ddechrau.
Mae nawr gyda'i deulu mabwysiedig yn ardal Cathays o Gaerdydd, ac mae ei gyfreithwyr wedi cychwyn adolygiad barnwrol.
Daeth aelodau o Lafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP at ei gilydd yn gwisgo rhubannau glas ar risiau'r Senedd i ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch "stand Up for Bach."
Fe ddywedodd Ms Rathbone bod "pobl yn sylweddoli nad ydi hyn yn benderfyniad addas".
"Mae e'n ddyn arbennig, a dydi o heb wneud unrhyw beth o'i le," meddai.
Dywedodd David Rowlands, AC UKIP, bod y sefyllfa yn "erchyll".
"Dylai bod ffordd o edrych ar bob achos yn unigol", meddai.