Canolfan Gymraeg eisiau cymorth ariannol i aros ar agor
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan Gymraeg newydd Caerdydd wedi gofyn am gymorth gan y cyngor i aros yn agored.
Mae'r wybodaeth wedi dod i law rhaglen y Post Cyntaf, Radio Cymru.
Ym mis Hydref fe ysgrifennodd Bwrdd yr Hen Lyfrgell at y cyngor i ofyn am ostyngiad yn y rhent o £100,000 y flwyddyn, neu mwy o gefnogaeth ariannol gan y cyngor.
Dywedodd cadeirydd y bwrdd rheoli bod "risg" y byddai'r Hen Lyfrgell yn cau, ond ei fod yn "hyderus" bod modd sicrhau dyfodol y ganolfan.
Mae unigolion sy'n agos i'r prosiect wedi dweud wrth BBC Cymru fod y digwyddiadau a'r cynadleddau wedi profi'n llwyddiant, ond fod problemau'r cynllun busnes yn dal y prosiect yn ôl.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud eu bod nhw wedi dechrau trafodaethau ar sut i helpu'r Hen Lyfrgell, ond mae'r arweinydd, Phil Bale, sy'n gefnogwr brwd o'r Hen Lyfrgell, wedi dweud yn y gorffennol dylai'r prosiect fod yn hunangynhaliol.
Fe agorodd yr Hen Lyfrgell yn yr Ais ym mis Chwefror gyda grant cyfalaf o £400,000 gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r arian yn rhan o brosiect i greu canolfannau tebyg ledled y wlad, i annog fwy o bobl i ddysgu ac i ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd.
Menter Iaith Caerdydd sy'n rhedeg y ganolfan Gymraeg.
Rhoi'r gorau i'r caffi
Yn wreiddiol, roedd y ganolfan yn cynnwys caffi bar, gofod i'w rhentu ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau, swyddfeydd, siop a meithrinfa, ond ym mis Awst penderfynodd y cwmni oedd yn rhedeg y caffi, Clwb Ifor Bach, i roi'r gorau iddi.
Mae nawr yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr tra bo'r broses o ddarganfod tenant newydd yn parhau.
Yn siarad ar y Post Cyntaf fore Gwener, dywedodd Huw Onllwyn, cadeirydd y bwrdd sy'n rhedeg y ganolfan ei fod yn "mawr obeithio" na fydd y ganolfan y cau, ac nad yw'n "disgwyl y bydd yr Hen Lyfrgell yn cau".
Ychwanegodd: "Mae 'na broblem ac mae hynny'n deillio o'r ffaith bod disgwyl i ni dalu £100,000 y flwyddyn mewn rhent i'r cyngor sir."
Dywedodd bod galw am ganolfan yn y brifddinas, ond mai'r "hafaliad ariannol... yw'r unig broblem rydyn ni'n ei wynebu".
Soniodd nad yw'r ganolfan dan reolaeth busnes mawr, yn hytrach "elusen go fach", a bod Menter Caerdydd wedi ymgymryd â'r gwaith o reoli "adeilad lle mae cyrff cenedlaethol megis y Cyngor Celfyddydau a bwrdd Croeso wedi methu".
"Mae'n amlwg erbyn hyn ei bod yn ormod i ddisgwyl i brosiect newydd fel hwn i greu digon o arian er mwyn talu £100,000 y flwyddyn mewn rhent, felly dyna yw'r broblem ar hyn o bryd."
Blaenoriaeth
Dywedodd hefyd bod y cyngor a'r llywodraeth wedi bod yn gefnogol o'r syniad o sefydlu'r ganolfan, ac wedi cyfrannu arian, ac felly ei fod yn "hyderus y bydd modd i'r ddau gorff ddod a syniadau gerbron er mwyn sicrhau dyfodol y prosiect".
Gwrthododd y byddai'n well gwario arian cyhoeddus ar wasanaethau eraill: "Mae'r Gymraeg yn flaenoriaeth, mae'n rhaid i ni weithio i roi cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn ein prifddinas.
"Mae 'na risg, ond... mae'r Hen Lyfrgell yn methu methu, a dwi'n hyderus y bydd pobl dawnus y cyngor sir a'r llywodraeth yn gallu creu fformiwla fydd yn sicrhau dyfodol tymor hir i'r Hen Lyfrgell, sydd yn adnodd gwerthfawr i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith sy'n byw yng Nghaerdydd a thu hwnt."
Mae'r feithrinfa, oedd yn cael ei rhedeg gan y Mudiad Meithrin, hefyd wedi cau yn ddiweddar.