Ariannu cwmni aeth i'r wal yn 'anghywir', medd gwas sifil

  • Cyhoeddwyd
Alcoa plant
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Alcoa oedd yn rhedeg y safle cyn Kancoat

Mae uwch-was sifil wedi cyfaddef bod panel buddsoddi wnaeth annog y llywodraeth i gynnig cefnogaeth ariannol i gwmni dur aeth i'r wal wedi gwneud y penderfyniad anghywir.

Fe wnaeth Kancoat yn Abertawe dderbyn £3.4m o arian cyhoeddus cyn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Roedd hynny er bod adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru ei hun wedi awgrymu bod gan y cwmni gynllun busnes "gwan ac anwadal".

Dywedodd dirprwy ysgrifennydd parhaol dros yr economi, James Price wrth ACau bod y panel yn credu bod gan y cwmni "gyfle rhesymol" o lwyddo.

Disgrifiad o’r llun,

Aeth James Price gerbron ACau ddydd Llun

Roedd y safle dur yn ardal Waunarlwydd dan reolaeth cwmni Alcoa Group tan 2007.

Fe dderbyniodd cwmni arall, Falcon Steel, arian gan Lywodraeth Cymru cyn iddo yntau fynd i'r wal yn Ionawr 2011.

Dywedodd Mr Price bod y panel buddsoddi "wedi'i argyhoeddi" bod gan Kancoat "gyfle rhesymol" o wneud yn dda, er gwaetha' methiant y cwmni hwnnw a hanes y safle.

"Dydi'r ffaith bod rhywbeth wedi methu o'r blaen ddim yn golygu y bydd yn methu eto," meddai.

Ond cyfaddefodd gerbron pwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad ddydd Llun bod penderfyniad y panel yn "anghywir" yn yr achos hwn.

Mae achos Kancoat wedi creu stwr yn y gorffennol, gyda honiadau bod Edwina Hart, cyn-weinidog yr economi, wedi mynd yn groes i gôd y gweinidogion drwy roi cefnogaeth i fusnes oedd yn agos i'w hetholaeth yng Ngŵyr. Gwadu hynny wnaeth y prif weinidog, Carwyn Jones.