PISA: Undebau athrawon yn rhybuddio rhag gorymateb
- Cyhoeddwyd
Mae undebau athrawon wedi rhybuddio rhag gorymateb i ganlyniadau profion rhyngwladol PISA.
Mae disgyblion Cymru wedi gwneud yn waeth na gweddill y DU yn y profion sy'n digwydd bob tair blynedd.
Dywedodd undeb UCAC bod angen rhoi'r canlyniadau "yn eu cyd-destun" a bod polisïau addysg Cymru "yn symud yn y cyfeiriad iawn".
Fe ategodd NUT Cymru eu sylwadau gan ddweud bod "newidiadau mawr ar y gorwel fydd yn cael effaith bositif" ar y system addysg.
Annog y llywodraeth i roi cefnogaeth ychwanegol i athrawon wnaeth undeb NASUWT, gan ddweud bod "y systemau addysg sy'n gweithio orau'n dangos mwy o barch i waith athrawon".
Disgyblion 15 oed oedd yn sefyll y profion mewn gwyddoniaeth, darllen a mathemateg ac mae canlyniadau Cymru yn is na chyfartaledd y 72 o wledydd neu economïau eraill oedd hefyd yn rhan o'r profion.
Ar y cyfan, mae'r undebau wedi ymateb i'r canlyniadau gan ddweud bod angen pwyllo ac na ddylai'r llywodraeth newid eu llwybr rŵan.
"Er bod PISA yn fesur rhyngwladol mae angen cofio mai dim ond un mesur digon cyfyng i fesur safonau ein hysgolion yw hwn," meddai Ywain Myfyr o undeb UCAC.
Ychwanegodd na ddylai'r llywodraeth "dynnu eu llygaid oddi ar y bêl" achos y canlyniadau, a bod diwygiadau sydd ar y gweill fel datblygu cwriciwlwm newydd a newid cyrsiau athrawon yn "allweddol".
Dywedodd bod "consensws yng Nghymru ein bod, o safbwynt polisïau addysg, yn symud yn y cyfeiriad iawn".
Diwygiadau
Cytuno bod diwygiadau am gael effaith bositif mae David Evans, ysgrifennydd NUT Cymru.
Mae'n dweud yn y gorffennol bod gwleidyddion wedi ymateb yn rhy gyflym i ganlyniadau PISA sydd wedi "rhwystro cynnydd addysgiadol."
"Gyda chynigion yn ymwneud â'r cwricwlwm newydd, cymwysterau newydd a newidiadau o bosib i'r ffordd rydyn ni yn hyfforddi athrawon ac yn defnyddio'r sector gyflenwi, mae yna yn barod ddiwygiadau mawr ar y gorwel fydd yn cael effaith bositif."
Dywedodd Rachel Curley o undeb ATL Cymru: "Fe fyddai hi wedi bod yn naïf i ddisgwyl gwelliannau sylweddol ers y canlyniadau diwethaf bedair blynedd yn ôl. Mae PISA yn fesuriad pwysig, ond dim ond yn un ffordd o fesur system addysg Cymru."
Ychwanegodd bod yna newidiadau wedi eu cyflwyno yn barod a'i bod hi yn mynd i gymryd amser i'r rhain ddwyn ffrwyth.
Annog y llywodraeth i sicrhau amodau gweithio ffafriol wnaeth undeb NASUWT.
"Mae sicrhau safonau addysg uchel yn ddibynnol ar gael athrawon brwdfrydig ac ymrwymedig sydd ag amodau gwaith sy'n eu galluogi i ganolbwyntio ar ddysgu yn y stafell ddosbarth," meddai Chris Keates, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb.
"Dylai Llywodraeth Cymru a chyflogwyr gymryd sylw o hyn wrth iddyn nhw ystyried beth mae NASUWT wedi dweud wrthyn nhw am ddyfodol cyflogau athrawon, amodau gwasanaeth a datblygiad proffesiynol."
Ychwanegodd bod y systemau addysg sy'n gweithio orau'n dangos mwy o barch i waith athrawon".
'Sefydlogi'
Yn ôl Tim Pratt, o Association of School and College Leaders Cymru dyw'r canlyniadau ddim mor wael â'r hyn roedd nifer wedi darogan.
"Mae rhai cenhedloedd wedi dirywio yn fwy ac mae Cymru wedi sefydlogi. 'Dyw hynny ddim i ddweud y dylen ni fod yn fodlon ond mae'n dangos bod polisïau addysgiadol Llywodraeth Cymru yn dechrau cael effaith bositif."
Dweud bod yna "lwybr hir o'n blaen" mae Gareth Evans o'r Sefydliad Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae'n dweud bod yn rhaid cofio bod nifer o bolisïau addysg Cymru yn rhai sydd yn weddol newydd wrth gymharu gyda gwledydd eraill a bod gan bawb rôl i chwarae i godi safonau.