Pwyllgor yn annog gwersi perthnasau iach mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn llefain

Fe ddylai disgyblion ysgol dderbyn gwersi am gynnal perthnasau iach, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Daw argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wrth iddyn nhw drafod pa mor effeithiol yw'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gafodd ei phasio yn 2015.

Mae cadeirydd y pwyllgor yn dweud nad yw'r ddeddf yn ddigon i newid agweddau, a bod angen gwersi gorfodol ar berthnasau iach mewn ysgolion.

Roedd llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi bwriadu gwneud hynny'n rhan o'r ddeddf, ond cafodd y syniad ei roi i'r neilltu.

Dywedodd y llywodraeth bryd hynny y dylai'r mater gael sylw mewn adolygiad o'r maes llafur, a dyna argymhelliad y pwyllgor, sydd am weld y gwersi gorfodol yn rhan o'r cwricwlwm newydd.

Newid cymdeithasol

Pan oedd y ddeddf yn cael ei thrafod yn ystod tymor diwetha'r Cynulliad, dywedodd un AC Llafur "bod angen rhywbeth mwy sylfaenol" na newid i'r maes llafur i fynd i'r afael ag agweddau tuag at drais yn erbyn merched.

Cafodd y ddeddf ei beirniadu hefyd gan ymgyrchwyr oedd yn credu nad oedd y gyfraith yn rhoi digon o bwyslais ar drais yn erbyn menywod yn benodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae addysg well am berthnasau yn "hanfodol", medd John Griffiths

Wrth gyhoeddi'r adroddiad newydd, dywedodd cadeirydd y pwyllgor bod y ddeddf yn "gyfraith arloesol", ond bod angen mynd ymhellach i newid agweddau.

"Mae potensial iddi greu gwelliannau go iawn o ran y trefniadau ar gyfer amddiffyn a chefnogi goroeswyr", meddai John Griffiths.

"Fodd bynnag, rydym yn cwestiynu a yw'r ddeddf yn ei hun yn ddigon i greu'r newid cymdeithasol rydym yn credu sy'n angenrheidiol i atal cam-drin.

"Rydym yn credu bod addysg am berthnasoedd iach yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac yn credu bod angen cyflwyno addysg o'r fath ym mhob ysgol cyn i agweddau niweidiol tuag at ryw a pherthnasoedd ddatblygu."

Bydd y llywodraeth nawr yn ystyried yr argymhellion.