Ymgais i achub toiledau cyhoeddus Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Gall o leiaf 52 o'r 73 toiled cyhoeddus yng Ngwynedd gael eu hachub rhag cau os allai'r cyngor ddod i gytundebau gyda chynghorau tref a chymuned.
Yn gynharach eleni, cytunodd y cyngor i gynllun i gau rhai tai bach, gan arbed £244,000.
Cafodd cynlluniau eu gohirio'r haf diwethaf wrth i'r cyngor gysylltu gyda chynghorau tref a chymuned er mwyn trosglwyddo'r cyfrifoldeb o gynnal a chadw'r toiledau.
Bydd cabinet y cyngor yn cyfarfod ddydd Mawrth er mwyn cytuno ar drefniadau'r partneriaethau.
Diogelu toiledau cyhoeddus
"Wrth weithredu'r cynllun partneriaeth gall o leiaf 52 o doiledau cyhoeddus barhau yn agored gyda chymorth a chydweithrediad cynghorau tref a chymuned," meddai adroddiad i arweinwyr y cyngor.
"Mae hyn yn bosibl er gwaethaf y toriadau i gyllideb perthnasol y cyngor."
Mae swyddogion y cyngor wedi dweud wrth aelodau'r cabinet eu bod yn croesawu'r datblygiad, a fydd yn sicrhau arbedion ac yn "llwyddo i ddiogelu cyfran sylweddol o doiledau cyhoeddus yn y sir".
Mae 21 o'r toiledau cyhoeddus yn parhau i fod dan fygythiad o gau, gan gynnwys dau sy'n agos at draethau baner las a phedwar arall sydd yn agos at safleoedd sydd yn boblogaidd gydag ymwelwyr.
Os bydd y cabinet yn cytuno i'r cynlluniau partneriaeth, bydd y cyngor yn ystyried grwpiau a chyrff eraill hefyd mewn ymgais i ddiogelu'r toiledau sydd dan fygythiad o gau.
Ychwanegodd y swyddogion fod yn rhaid i gynghorwyr "dderbyn y bydd yn rhaid cau rhai toiledau os nad yw'r trefniant partneriaeth yn bosibl".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2016