Mae'r ysgol fechan wedi cau
- Cyhoeddwyd
Sut mae cymuned fach wledig yn delio efo'r ffaith fod ysgol y pentref yn cau?
Pan ganith cloch ola'r tymor yn Ysgol Gynradd Brithdir ger Dolgellau fis Gorffennaf bydd y plant yn edrych ymlaen fel erioed at ei gwyliau haf.
Ond y tro yma fe fyddan nhw'n gwybod na fydd yr un ohonyn nhw'n dod nôl i'r ysgol fach fis Medi.
Mae'n stori gyfarwydd wrth i gynghorau wynebu pwysau ariannol a phoblogaeth cefn gwlad grebachu.
'Wedi cwffio'
Er gwaethaf bwydro caled i'w chadw ar agor mae Ysgol Brithdir ymhlith pedair ysgol gynradd yn ardal Dolgellau sy'n cau fel rhan o gynlluniau i greu ysgol newydd 3-16 oed Bro Idris yn yr ardal.
Mae pobl y pentref wedi cael cyfarfod i drafod sut maen nhw am gofnodi'r bennod ola' drist yn hanes yr ysgol gyda chyngerdd a chofroddion i'r disgyblion ymysg y syniadau.
"Ryden ni'n teimlo ein bod ni wedi cwffio yn galed - fedrwn ni ddim deud yn wahanol," meddai Gwerfyl Price sy'n fam i efeilliaid naw oed fydd yn gorfod gadael Ysgol Brithdir eleni.
"Fedrith rywun ddim gwneud dim byd arall - faswn i'n teimlo'n esgeulus ofnadwy taswn i ddim wedi trio ngora glas i achub yr ysgol ... ond mae wedi bod yn ofer yn y pen-draw.
"Mae'n rhaid inni dderbyn ein bod ni mewn hinsawdd ariannol nad ydy pobl wedi gweld ei debyg, dim ers talwm byd, a dwi'n meddwl fod Ysgol y Bithdir yn un o'r sefydliadau sy'n diodde oherwydd hynna."
Bydd plant cymuned Brithdir yn cael eu chwalu meddai Gwerfyl: "Mae na rai plant yn mynd i Ysgol Dolgellau, mae 'na rai plant yn mynd i fynd i safleoedd eraill yn y dalgylch felly mae'n mynd i chwalu grwpiau o ffrindiau a'r teimlad o fod yn rhan o gymuned Brithdir.
"Maen nhw'n mynd i golli'r cysylltiad ffisegol efo'r Ysgol Brithdir, a'r cysylltiad teuluol a'r hanes sy'n gysylltiedig â'r ysgol. Mae hi wedi bod yn rhan annatod o gymuned Brithdir ar hyd y cenedlaethau."
Bydd plant Gwerfyl yn mynd i Rydymain sy'n ryw 10 munud ymhellach na Brithdir o'u cartref, gan dorri traddodiad sy'n mynd nôl dros chwe chenhedlaeth i gyfnod ei hen nain.
Ond mae hi'n ceisio bod yn ymarferol am y dyfodol: "Mae'n rhaid inni drio meddwl yn bositif - os ti'n troi cefn ac yn digio ac yn pwdu, dydi hynna ddim yn gwneud lles i neb ac y sicr ddim i dy blant.
"Wedyn mae'n rhaid i rywun droi cornel yn feddyliol a mynd efo'r don."
Pan gafodd yr ysgol ei hagor yn 1874 roedd tua 100 o blant yn yr ysgol ond mae i lawr i ychydig dros 30 heddiw.
Mae diboblogi yng nghefn gwlad yn "drychinebus" meddai Gwerfyl ac yn "effeithio yn aruthrol ar addysg cynradd ac uwchradd".
"Mae ne lai o bobl ifanc, llai o deuluoedd a llawer mwy o bobl hŷn, pobl wedi ymddeol, yng nghefn gwlad," meddai.
Colli canolbwynt y gymuned
Rhiant arall sydd wedi bod drwy'r profiad ydy Gwynedd Jones o Lan-yr-afon ger Corwen. Caeodd Ysgol Llawr y Betws yn 2009, 101 mlynedd wedi ei hagor, wrth i'r niferoedd syrthio i dan 10.
Symudodd ei blant o i Ysgol Ffridd y Llyn yn y Sarnau, ryw bum milltir i ffwrdd.
"Mi wnaeth ddrwg inni fel pentref pan ddaru'r ysgol gau.
"Yr ysgol oedd y canolbwynt. Roedd y siop di cau, roedd y capel yn mynd i lawr - ac mae wedi cau bellach ers dechre 2017. Does ne ddim byd ar ôl lawer yn y pentre," meddai er eu bod yn "lwcus iawn" o'r caffi a'r garej yng Nglan-y-afon ar ochr y brif ffordd rhwng Bala a Chorwen sy'n fan casglu i rai hŷn y gymuned.
Mae pawb wedi mynd ei ffordd ei hun i bentrefi cyfagos meddai Gwynedd ac i'r rhai iau, y norm erbyn hyn ydy bod yn rhaid edrych tu allan i'w hardal a theithio ymhellach i gymdeithasu.
'Dim amser i gymysgu'
Y ffermydd bach oedd "asgwrn cefn y gymuned flynyddoedd yn ôl" meddai Gwynedd, ond dydyn nhw ddim yn ddigon i gynnal teulu ar eu pennau eu hunain heddiw ac mae ffermwyr yn mynd ati i ganfod gwaith rhan amser y tu allan i'r ardal.
"Does gynnyn nhw ddim amser i gymysgu 'run fath a dydi rywun ddim yn gweld gymint ar ei gilydd," meddai gan ychwanegu fod llawer o "bobl mewn oed a phobl ddŵad" yn mhentrefi'r ardal bellach.
"Mae hi yn anodd. Mae gynnoch chi ddwy ffordd o edrych arni - mi fedrwch chi fod yn bositif neu'n negyddol."
Mae Gwynedd wedi penderfynu bod yn bositif ac mae o a'i deulu wedi gwneud eu hunain yn rhan o gymdeithas y pentref nesa' yn y Sarnau.
Mae'n edrych yn gadarnhaol ar rai elfennau o symud o'r ysgol fach - mae ei blant wedi bod yn hapus iawn yn Ffridd y Llyn ac mae ganddyn nhw fwy o ffrindiau yr un oed sy'n gallu cydweithio'n well yn y dosbarth meddai.
'Dinistriol'
Mae agwedd Emily Dix oedd yn saith oed pan gaeodd Ysgol Gynradd Mynyddcerrig yn Sir Gaerfyrddin yn 2007 ychydig yn wahanol.
Dywedodd wrth BBC Cymru yn 2016 fod cau'r ysgol yn 2007 a chwalu'r disgyblion i ysgolion eraill wedi cael effaith ddinistriol arni hi ac ar y gymuned.
Mae'n disgrifio ei chyfnod yn yr ysgol fel "amser hapusaf ei bywyd".
"Alla i ddim cymharu gydag unrhyw ysgol arall dwi wedi bod iddi, unrhyw brofiad arall dwi wedi ei gael nac unrhyw gymuned dwi wedi bod ynddi i'r un yna. Roedd yn gymuned unigryw, agos, anhygoel.
Dyw'r gymuned ddim wedi bod yr un fath ers hynny, meddai: "Rydyn ni gymaint llai nawr. Yr ysgol oedd yn ein huno ni ... yn dod â ni at ein gilydd.
"Ers hynny dyw plant y pentref ddim yn adnabod ei gilydd, 'dy'n nhw ddim yn chwarae gyda'i gilydd, 'dy'n nhw erioed wedi cael achos i siarad gyda'i gilydd," meddai.
Yn 2016, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, reolau newydd ar gyfer 'cefnogi' ysgolion gwledig Cymru.
Mae'r mesurau yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol wledig, gyda rhaglen ymgynghori sy'n fwy trwyadl. Byddai hynny'n gorfodi'r awdurdodau lleol i ystyried yr holl ddewisiadau gwahanol posibl, gan gynnwys creu cysylltiadau gydag ysgolion eraill.