Cynnig £10,000 i weithwyr hŷn Tata ymddeol yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
TataFfynhonnell y llun, Christopher Furlong / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd aelodau tri o'r undebau yn pleidleisio dros y cynnig ddydd Llun.

Mae BBC Cymru yn deall y gallai cyfraniad pensiwn hyd at £10,000 gael ei gynnig i weithwyr Tata sydd dros 50 oed ac yn bwriadu ymddeol yn gynnar.

Bydd y ffigwr terfynol yn amrywio, gan ddibynnu ar hyd eu gwasanaeth i'r cwmni ac ers faint mae'r unigolion wedi bod yn talu i mewn i'w cynllun pensiwn.

Bydd aelodau tri o'r undebau yn pleidleisio dros y cynnig ddydd Llun.

Mae'r cynnig yn cynnwys buddsoddi ym Mhort Talbot a symud i ffwrdd o bensiwn ffigwr terfynol tuag at gynllun llai hael.

Yn y gorffennol tydi undebau Unite, GMB a Community heb ddweud wrth eu haelodau sut i bleidleisio, ond mae'r undebau yn argymell y dylai eu haelodau gefnogi'r newid.

Nid yw'r blediais yn derfynol ac nid oes rhaid i Tata weithredu ar y canlyniad.