Rhan o bier Bae Colwyn yn cwympo i'r môr
- Cyhoeddwyd

Llun o'r pier o'r awyr
Mae rhan o bier Bae Colwyn wedi cwympo i'r môr.
Cafodd swyddogion peirianyddol cyngor Conwy eu hanfon i'r safle, ond bydd rhaid aros tan bod y llanw allan er mwyn gwneud asesiad o'r difrod, a beth yn union ddigwyddodd.
Mae'r pier wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers 2008 ac yn ôl adroddiadau does dim awgrym fod unrhyw un wrth y pier pan gwympodd.
Yn 2013 fe wnaeth cynghorwyr Conwy bleidleisio i ddymchwel yr adeilad gwag oedd wedi bod yn newyddion oherwydd ffrae gyfreithiol ynglŷn â phwy oedd yn berchen ar y safle.

Ar y pryd dywedodd y Cyngor eu bod yn gwario £53,000 bob blwyddyn ar gynnal a chadw'r strwythur a adeiladwyd yn 1900.
Yn ôl y cyngor, roedd angen £15m i adnewyddu'r pier.
Cafodd cais y cyngor sir i ddymchwel y pier ei wrthod gan Lywodraeth Cymru yn 2015.
Wythnos yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn fe wnaeth Steven Hunt, dyn busnes lleol, fethu yn ei ymdrech yn yr Uchel Llys i adennill meddiant o'r adeilad.
Cafodd y safle ei drosglwyddo i ofal Cyngor Conwy yn 2012.
Dywedodd Cyngor Conwy mewn datganiad: "Fe fyddwn ni'n gwybod mwy pan fydd y llanw allan a swyddogion yn medru gwneud archwiliad manylach.
"Mae ardal waharddiedig wedi'i sefydlu o amgylch y pier ac fe fydd yr ardal yn cael ei ailasesu er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae swyddogion Adnoddau, Iechyd a Diogelwch ar y safle ac yn delio gyda'r sefyllfa."

Mae ardal waharddiedig o amgylch y pier.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2015