Marwolaeth Llanbedrog: Rhyddhau dynion ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
Peter ColwellFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peter Colwell yn 18 oed ac yn heliwr brwd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad ydy swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall wrth iddynt barhau a'u hymchwiliad i farwolaeth dyn 18 oed yn Llanbedrog.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i faes parcio tafarn y Llong yn y pentref ychydig wedi hanner nos fore Sul.

Daeth swyddogion o hyd i Peter Robert Colwell, dyn 18 oed o Gapel Uchaf, Clynnog Fawr yn farw ar ôl iddo ddioddef anafiadau saethu.

Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Daeth swyddogion o hyd i ddryll yn y lleoliad ac fe gafodd pedwar dyn eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau'n parhau. Roedd y pedwar dyn a'r dyn a fu farw yn ffrindiau.

'Digwyddiad trasig'

Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies: "Er bod hwn yn ddigwyddiad trasig sy'n cael ei drin fel ymchwiliad llofruddiaeth, rydym yn cadw meddwl agored o ran amgylchiadau'r digwyddiad.

"Mae ein harbenigwyr yn ceisio sefydlu yn union beth a ddigwyddodd a sut cafodd y gwn haels ei saethu, ond mi hoffwn sicrhau'r gymuned leol mai digwyddiad anarferol iawn oedd hwn yn ymwneud â phobl leol a 'does yna ddim bygythiad ehangach i'r cyhoedd.

"Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'r gwn wedi cael ei ddarganfod. Byddwn yn ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron ymhen amser ynghylch unrhyw gyhuddiadau.

"Rydym yn cydymdeimlo'n arw â theulu a ffrindiau Peter Colwell ar yr amser anodd hwn."

Disgrifiad,

Llanbedrog yn ymateb i farwolaeth dyn 18 oed o'r ardal

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu ac fe gynhelir archwiliad post mortem ymhen amser.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio'r Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu'r cyfeirnod V016717.

Dywedodd gynghorydd Llanbedrog, Angela Russell wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ddydd Llun ei bod wedi bod yn benwythnos anodd i'r gymuned yn dilyn y digwyddiad.

"Maen nhw wedi cael braw," meddai.

"Maen nhw wedi dychryn - lle prydferth, tawel, a pheth fel hyn wedi digwydd yng nghanol y pentref. Dydyn nhw methu coelio'r peth."