Atal dau o brif swyddogion Chwaraeon Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chwaraeon CymruFfynhonnell y llun, Chwaraeon Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahardd cadeirydd ac is-gadeirydd Chwareon Cymru tra bod ymchwiliad i gwynion yn erbyn y ddau yn cael ei gwblhau.

Yn ôl y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans, mae'r penderfyniad i wahardd y cadeirydd Dr Paul Thomas a'i ddirpwy Adele Baumgardt yn un "niwtral".

Ond mae'r gweinidog wedi codi gwaharddiad yn erbyn bwrdd rheoli'r corff a phenodi Lawrence Conway'n gadeirydd dros dro.

Dywedodd Ms Evans fod yr adolygiad gan Lywodraeth Cymru wedi datgelu tensiynau rhwng y tîm rheoli a bod y berthynas broffesiynol wedi chwalu.

Mewn datganiad yn y Senedd, dywedodd: "Hoffwn ei gwneud yn glir, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, fod y casgliadau'n ymwneud yn bennaf â methiant yn y berthynas rhwng aelodau ar lefel uwch yn Chwaraeon Cymru.

"Mae yna faterion sydd dal angen sylw o ganlyniad i'r broses adolygu.

"Yn ogystal, mae nifer o gwynion ffurfiol wedi eu derbyn gan Lywodraeth Cymru wedi i'r adolygiad gael ei gwblhau."

Dywedodd hefyd fod Adele Baumgardt wedi ei hatal o'i swydd o ganlyniad i bryderon eraill yn ymwneud â "gweithrediad cydlynol y bwrdd".

Mae'r gweinidog wedi penodi Lawrence Conway yn gadeirydd dros dro. Mae Mr Conway yn gyn ysgrifennydd preifat i Rhodri Morgan yn ystod ei gyfnod yn Brif Weinidog Cymru.

Bydd John Taylor, sy'n gyn brif weithredwr ACAS, yn gweithio gyda Mr Conway fel ymgynghorydd er mwyn sicrhau bod y bwrdd rheoli yn gallu gweithredu'n gywir ac yn gallu gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesa.

Ym mis Tachwedd 2016, fe gafodd gwaith bwrdd rheoli Chwaraeon Cymru ei wahardd dros dro gan y gweinidog, a dywedodd fod ei phenderfyniad yn "weithred niwtral".

Ychwanegodd bod y cadeirydd Dr Paul Thomas a'r is-gadeirydd Adele Baumgardt wedi cytuno y dylai "holl weithredoedd y Bwrdd gael eu gwahardd am y tro".

Mae un adroddiad mewnol a welwyd gan BBC Cymru o waith Chwaraeon Cymru - a oedd yn hynod feirniadol o "weledigaeth wan" y corff - yn awgrymu y dylai'r corff weld newidiadau sylweddol.