Eisteddfod Powys i ddychwelyd yn 2018
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn cyfarfod yn y Trallwng ddydd Sadwrn mae pwyllgor Eisteddfod talaith a chadair Powys wedi cadarnhau bydd gŵyl werin yn cael ei chynnal yn enw'r Eisteddfod eleni.
Ond mae Cadeirydd Cyllid Eisteddfod Powys, Beryl Vaughan wedi dweud wrth Cymru Fyw y bydd Eisteddfod Powys yn dychwelyd yn 2018 yn y Drenewydd.
Daeth cadarnhad ym mis Tachwedd nad oedd gan Eisteddfod Powys gartref eleni yn dilyn prysurdeb hel arian at Eisteddfod Genedlaethol Meifod ddwy flynedd yn ôl.
'Dyfodol llewyrchus'
Dywedodd hefyd bydd gŵyl werinol yn cael ei chynnal ddiwedd mis Hydref yn enw'r Eisteddfod, gyda phobl ifanc yr ardal yn gyfrifol am drefnu'r gweithgareddau.
"Dwi'n falch o allu dweud bydd gŵyl werinol yn cael ei gynnal yn Llanfair Caereinion Hydref 27 a 28 yn enw Eisteddfod Powys," meddai Ms Vaughan.
Daeth cadarnhad hefyd bydd trefnwyr yn y Drenewydd yn derbyn help llaw gan bobl o Lanfyllin ac enw'r Eisteddfod y flwyddyn nesaf fydd Eisteddfod Bro Hafren.
Ychwanegodd Ms Vaughan: "Mae'r cyfarfod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus iawn i Eisteddfod talaith a chadair Powys."