Sylwadau Twitter Felix Aubel yn 'pardduo' Cristnogion
- Cyhoeddwyd
Mae llefarwyr ar ran eglwysi annibynnol yng Nghymru cyhuddo un o'u gweinidogion o "bardduo" Cristnogion gyda'i sylwadau ymfflamychol.
Cafodd Dr Felix Aubel ei feirniadu yn gynharach yn yr wythnos ar ôl cael ei gyhuddo o gefnogi erledigaeth grefyddol mewn neges ar wefan gymdeithasol.
Ond mynnodd y gweinidog Annibynnol, ac aelod amlwg o'r blaid Geidwadol, bod "camddealltwriaeth llwyr" wedi digwydd.
Roedd Dr Felix Aubel wedi ymateb i neges at Twitter gan flogiwr asgell dde eithafol o Sweden drwy ofyn a ddylai Cristnogion yn Ewrop wneud yr hyn a wnaeth pobl Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol.
Cafodd hynny ei ddehongli fel cyfeiriad at Chwil-lys Sbaen, pan gafodd Mwslemiaid ac Iddewon eu herlid a'u harteithio wrth gael eu llosgi.
'Pardduo ar gam'
Roedd sylwadau Dr Aubel eisoes wedi cael eu beirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig, a ddywedodd nad oedd yn cynrychioli eu safbwynt nhw ac na allwn "esgusodi'r defnydd o'r math yma o iaith".
Ac mewn datganiad ar y cyd mae llywydd, is-lywydd ac ysgrifennydd cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi codi pryderon pellach am y sylwadau maen nhw'n ei ddweud sydd yn "wrthun gennym".
"Rydym yn parchu hawl gweinidog - fel pawb arall - i fynegi barn, ond mae'r sylw a wnaed gan Dr Felix Aubel yn hollol annerbyniol," meddai'r datganiad gan D. Glyn Williams, y Parchedig Jill-Hailey Harries, a'r Parchedig Dr Geraint Tudur.
"Er nad oes gan yr Undeb unrhyw awdurdod dros weinidog nac eglwys Annibynnol, mae'n amlwg yn ôl yr ymateb o sawl cyfeiriad dros y tridiau diwethaf yma ein bod ni, fel Annibynwyr a Christnogion yn gyffredinol, yn cael ein pardduo ar gam o ganlyniad i sylw un unigolyn."
Ychwanegodd yr undeb bod goddefgarwch crefyddol yn "egwyddor ganolog i'n traddodiad ni fel Annibynwyr", a'u bod yn estyn croeso i'r rheiny "sy'n ffoi rhag rhyfel, trais ac erledigaeth".
Yn ei ymateb i BBC Cymru yn dilyn y neges, sydd bellach wedi ei ddileu, dywedodd Felix Aubel fod camddealltwriaeth wedi bod.
"Roeddwn i'n gofyn cwestiwn pen agored am sylwadau gwrth-grefyddol y trydariad, ac nid yn gwneud datganiad," meddai Dr Aubel, sydd yn weinidog ar nifer o gapeli yn ardal Caerfyrddin.
"Rwyf o dras cymysg fy hun ac nid ydw i'n cytuno gydag unrhyw ragfarn grefyddol neu hiliol."
Fe ddaeth teulu Dr Aubel, sydd yn hanu o Slofenia, i dde Cymru fel ffoaduriaid wedi'r Ail Ryfel Byd.