Derwen Brimmon yn dod yn ail drwy Ewrop mewn pleidlais

  • Cyhoeddwyd
BrimmonFfynhonnell y llun, Treehunter.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Y goeden dderw 500 oed

Mae coeden dderw hynafol wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2017.

Pan gyhoeddwyd canlyniad y bleidlais gyhoeddus ym Mrwsel nos Fawrth, fe ddaeth Derwen Brimmon - coeden tua 500 mlwydd oed ger Y Drenewydd - yn ail i goeden 650 oed yn Wisniowa yng Ngwlad Pwyl.

Cafodd y goeden Bwylaidd 1,400 yn fwy o bleidleisiau.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe gafodd y goeden honno - Derwen Josef - ei defnyddio fel lloches gan deulu o Iddewon oedd yn cuddio rhag y Natsïaid.

Daeth Derwen Brimmon yn amlwg yn y newyddion pan gafodd llwybr ffordd osgoi'r Drenewydd ei newid er mwyn gwarchod y goeden hynafol yn dilyn ymgyrch gan bobl yr ardal a thu hwnt.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd y byddai'r llwybr yn symud 15 metr o fonyn y goeden er mwyn peidio aflonyddu ar y gwreiddiau.