Cyfle i gyfrannu i adolygiad gofal iechyd meddwl pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r adolygiad yn dilyn honiadau o "gam-drin sefydliadol" ar ward Tawel Fan

Bydd y cyhoedd yn gallu cyfrannu i adolygiad o ofal pobl hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl o ddydd Llun ymlaen.

Cafodd y ddogfen ei chomisiynu yn dilyn beirniadaeth lem o ofal ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae disgwyl cyhoeddi casgliadau adolygiad annibynnol Donna Ockenden yn ystod yr haf.

Mae'r ymchwilwyr yn annog staff y Gwasanaeth Iechyd, cleifion, gofalwyr a theuluoedd i rannu eu profiadau am y system ofal mewn cyfres o gyfarfodydd.

Y cyfarfodydd

  • 3 Ebrill - Llanrwst;

  • 4 Ebrill - Cyffordd Llandudno;

  • 8 Mai - Bangor;

  • 9 Mai - Tywyn;

  • 10 Mai - Pwllheli.

Mae disgwyl cyfarfodydd pellach hefyd ym mis Mehefin a Gorffennaf.

Dywedodd Ms Ockenden: "Mae'r gwaith yma yn rhan o'r adolygiad sy'n mynd rhagddo am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl pobl hŷn yng ngogledd Cymru."

"Mae'r adolygiad hefyd yn edrych ar y digwyddiadau a arweiniodd at gau ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn Rhagfyr 2013.

"Bydd yr adolygiad yn ystyried systemau, strwythurau a phrosesau llywodraethu y Bwrdd Iechyd yn y gorffennol a'r rhai cyfredol, ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i bobl hŷn."

Ychwanegodd: "Mae estyn allan a gwrando ar gleifion, eu gofalwyr a'u cynrychiolwyr a staff gofal iechyd yn y modd yma'n hanfodol i'r adolygiad i benderfynu beth yw y gwir."

Caiff y cyfarfodydd eu cynnal gan dîm Ms Ockenden ynghyd â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, ac mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan, dolen allanol.