Grantiau i ddenu myfyrwyr dosbarth cyntaf i ddysgu

  • Cyhoeddwyd
DysguFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd myfyrwyr sydd â gradd dosbarth cyntaf yn gallu cael £20,000 i hyfforddi i ddysgu Cymraeg, ffiseg, cemeg neu fathemateg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd grantiau newydd ar gael i ddenu'r myfyrwyr mwyaf disglair i hyfforddi i fod yn athrawon.

Mae'r cymorth mwyaf wedi ei dargedu tuag at bynciau penodol a graddedigion gafodd radd dosbarth cyntaf.

Gobaith yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yw "codi safon addysgu yng Nghymru".

Mae'r cyhoeddiad yn golygu y bydd graddedigion dosbarth cyntaf yn gallu cael £20,000 am hyfforddi i ddysgu Cymraeg, ffiseg, cemeg neu fathemateg.

line break

Y grantiau cymhelliant

Ar gyfer cyrsiau ymarfer uwchradd dysgu Medi 2017, bydd graddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf yn gallu cael:

  • £20,000 i hyfforddi i ddysgu Cymraeg, ffiseg, cemeg neu fathemateg;

  • £15,000 i hyfforddi i ddysgu ieithoedd modern neu dechnoleg gwybodaeth.

Bydd graddedigion sydd â gradd 2.1 yn gallu cael:

  • £10,000 i hyfforddi i ddysgu Cymraeg, ffiseg, cemeg neu fathemateg;

  • £6,000 i hyfforddi i ddysgu ieithoedd modern neu dechnoleg gwybodaeth.

Bydd graddedigion sydd â gradd 2.2 yn gallu cael:

  • £6,000 i hyfforddi i ddysgu Cymraeg, ffiseg, cemeg neu fathemateg.

Mae grantiau o £3,000 hefyd i fyfyrwyr dosbarth cyntaf wneud nifer o gyrsiau uwchradd eraill, ynghyd â chyrsiau addysg gynradd.

Mae £3,000 ychwanegol ar gael ar gyfer y rheiny sy'n gwneud cwrs cynradd gydag arbenigedd mewn Saesneg, Cymraeg, mathemateg, cemeg neu ffiseg.

line break

Dywedodd Ms Williams: "Er mwyn creu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol, rhaid i ni fedru denu'r graddedigion gorau posibl i fod yn athrawon.

"Mae'n bwysig, er bod nifer y swyddi gweigion ym maes addysgu yn gymharol isel yng Nghymru, ein bod yn denu graddedigion sydd â gwybodaeth arbenigol yn y pynciau sy'n flaenoriaeth gennym, fel mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg.

"Ochr yn ochr â'r gwaith o ddiwygio addysg gychwynnol i athrawon, safonau proffesiynol a dysgu proffesiynol, bydd y cymhelliannau hyn yn help i godi safon addysgu yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol i ddiwygio'r byd addysg."