Actores Hi-de-Hi! - Ruth Madoc - wedi marw yn 79 oed

  • Cyhoeddwyd
Chwaraeodd Ruth Madoc ran Gladys Pugh yn y gyfres deledu Hi-de-Hi!
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Ruth Madoc ran Gladys Pugh yn y gyfres deledu Hi-de-Hi!

Mae'r actores Ruth Madoc - sydd fwyaf adnabyddus am ei rôl yng nghyfres deledu Hi-de-Hi! - wedi marw yn 79 oed.

Yn enedigol o Norwich, cafodd ei magu yn Llansamlet ger Abertawe, cyn mynd ymlaen i goleg drama RADA yn Llundain.

Fe ddywedodd ei hasiant ei bod wedi marw yn yr ysbyty ddydd Gwener ar ôl cael triniaeth wedi iddi syrthio yn gynharach yn yr wythnos.

Dywedodd y sgriptiwr teledu Russell T Davies ei bod yn fenyw "hollol hyfryd".

Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd fel mam i gymeriad Matt Lucas, Dafydd, yn y gyfres gomedi, Little Britain

Hi oedd yn chwarae rhan Gladys Pugh yng nghyfres Hi-de-Hi! rhwng 1980 ac 1988.

Bu hefyd yn actio mewn sawl cynhyrchiad theatr ac fe ymddangosodd ar gyfres deledu 'Fo a Fe' gyda Ryan Davies yn y 70au.

Yn 2004 roedd hi'n rhan o'r gyfres ddysgu Cymraeg, Cariad@Iaith ar S4C.

Cafodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe yn 2006.

'Doniol, caredig, craff'

Mewn neges ar Instagram, dywedodd y sgriptiwr teledu Russell T Davies ei bod yn "ddoniol, caredig, craff ac yn brydferth o an-sinigaidd".

Fe ddisgrifiodd hi fel "un o'r hen rai gwych oedd yn caru'r busnes, yn caru'r straeon ac yn caru actio ac actorion."

"Fe serennodd fel Myrtle mewn cyfres wnes i ysgrifennu o'r enw Mine All Mine, ac roedd hi'n hollol hyfryd."

Ffynhonnell y llun, Archif BBC
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd Ruth Madoc ar gyfres deledu 'Fo a Fe' gyda Ryan Davies

Dywedodd y canwr a'r cyflwynydd Aled Jones ei fod "mor drist o glywed am farwolaeth yr annwyl Ruth Madoc" ar Twitter.

"Roedd hi'n berson hyfryd ro'n i'n lwcus o'i hadnabod."

Dywedodd y cynhyrchydd creadigol ac arweinydd Gŵyl Ffilm LHDTC+ Iris Prize, Berwyn Rowlands, fod Cymru wedi colli "trysor cenedlaethol".

"Roedd Ruth Madoc yn actores arbennig oedd yn gweithio'n galed, a wnaeth barhau i ddiddanu tan y diwedd."

Ychwanegodd ei bod wedi "cefnogi talent newydd" yn enwedig yn ddiweddar gyda'r Iris Prize.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hi'n briod gyda'r actor Philip Madoc, a fu farw yn 2012. Fe wahanodd y ddau yn yr 80au.

Fe briododd John Jackson yn 1982. Bu farw yn 2021.

Mae hi'n gadael dau o blant, Rhys a Lowri.

Pynciau cysylltiedig