Y darlledwr David Parry-Jones wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r darlledwr a chyn-sylwebydd rygbi BBC Cymru, David Parry-Jones wedi marw yn 83 oed.
Bu'n gyflwynydd rhaglen newyddion BBC Wales Today am nifer o flynyddoedd, a bu'n gweithio fel dadansoddwr rygbi ar gyfer BBC Radio 5.
Roedd hefyd yn awdur nifer o lyfrau ar y gamp, gan gynnwys llyfrau am hanes rygbi yng Nghymru.
Fe gafodd David Parry-Jones ei eni ar 25 Medi 1933 ac fe aeth i'r ysgol yng Nghaerdydd, cyn mynd i Goleg Merton ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1952 i astudio'r Clasuron.
Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, roedd yn gapten ar dîm rygbi'r undeb, y Greyhounds, a thimau criced y coleg.
Ar ôl cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol yn 1959, fe ddechreuodd ar yrfa fel newyddiadurwr, cyn mynd ymlaen i fod yn un o sylwebwyr rygbi mwyaf adnabyddus y BBC.
David Parry-Jones oedd yn gyfrifol am sylwebu ar fuddugoliaeth enwog Llanelli dros y Crysau Duon yn 1972.
Roedd hefyd yn gymar i'r ddarlledwraig Beti George, ac ers 2009 roedd wedi bod yn dioddef o glefyd Alzeheimer.
Bu'r ddau yn gweithio'n galed i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr gan ymddangos ar nifer o raglenni ar y BBC ac S4C.
Roedd David Parry-Jones hefyd yn dad i ddau o blant.
'Un o'r cewri'
Wrth gofio am ei gyfaill dywedodd y darlledwr Huw Llywelyn Davies fod David Parry-Jones yn un o "hoelion wyth y byd darlledu chwaraeon yng Nghymru".
"Roedd yn un o'r cewri, ynghyd â phobl fel Cliff Morgan, ac fe fydd pawb yn ei gofio am ei ddelwedd nodweddiadol, yn ei gôt sheepskin, a'i allu i fynegi", meddai.
"Roedd gan David y gallu i gyfleu achlysur digwyddiad o bwys, fel yn y gêm rhwng Llanelli a'r Crysau Duon.
"Roedd ei baratoi wastad yn drylwyr iawn, ac fe roedd yn gwybod pryd i siarad a beth i'w ddweud, roedd yn un o hoelion wyth y byd darlledu chwaraeon, ac yn wir feistr ar ei grefft."
Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, ei fod yn "ddarlledwr gwybodus, poblogaidd tu hwnt" a'i fod yn "uchel iawn ei barch".
Dywedodd Mr Davies: "Roedd David Parry-Jones yn was gwych i'r gêm, roedd yn hynod boblogaidd ledled Cymru, ac yn ddarlledwr gwybodus gyda phersonoliaeth gynnes.
"Ar nodyn personol roedd yn ffynhonnell wych o gyngor, wrth ystyried mynd i'r Brifysgol yn Rhydychen fel myfyriwr ôl-raddedig, roedd ganddo hefyd eiriau caredig i'w dweud pan oeddwn yn cyfarfod ag ef fel sylwebydd yn ystod fy nyddiau yn chwarae."
'Llais rygbi Cymru'
Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies hefyd wedi cyflwyno teyrnged, drwy ddweud fod "David yn ddarlledwr cyflawn".
"Roedd yn uchel ei barch yma yng Nghymru a thu hwnt. Roedd ei awdurdod a'i gyfaredd yn ei wneud yn gyflwynydd naturiol ar BBC Wales Today. Ac yn y blwch sylwebu fe oedd llais rygbi Cymru - yn un o'r goreuon yn sicr.
"Yn fwy diweddar, mae ei frwydr gyhoeddus gyda dementia - a'r gofal arbennig gan ei bartner, Beti George - wedi helpu miliynau o bobl i ddeall mwy am yr her o fyw gydag Alzheimer's, gan ysgogi dadl gyhoeddus ynglŷn â gofal dementia.
"Mae ein cydymdeimlad heddiw, wrth gwrs, gyda theulu Beti a David."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2012