Etholiad cyffredinol buan: 'Ymgyrchu caled o'n blaenau'
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog Theresa May ei bod hi am gynnal etholiad cyffredinol ar fyr rybudd, ein gohebydd seneddol Elliw Gwawr sydd yn dadansoddi.
Beth oedd yn yr awyr yn Nolgellau dros y Pasg sgwn i?
Llai na mis yn ôl roedd Downing Street yn gadarn na fyddai yna etholiad: "Dydi o ddim yn rhywbeth mae hi'n ei gynllunio, nag eisiau ei wneud."
Ond ar ôl gwyliau cerdded ym Meirionnydd dros Ŵyl y Banc mae Theresa May wedi dod nôl i San Steffan yn barod am frwydr.
Mae'n gyhoeddiad sydd wedi synnu pawb. Does dim dwywaith bod hwn yn dro pedol go sylweddol.
Ond wrth wneud datganiad y tu allan i Downing Street, dywedodd bod y wlad angen etholiad nawr, a hynny oherwydd Brexit.
Dywedodd bod ei gallu i sicrhau'r cytundeb gorau yn y fantol oherwydd gwrthwynebiad y pleidiau eraill yn San Steffan.
Felly mae hi eisiau mandad i fwrw ymlaen gyda'r Brexit mae hi eisiau, cyn i'r trafodaethau ddechrau go iawn yn yr haf.
Ond mae hefyd yn gwybod bod ei mwyafrif bychan yn golygu bod gan aelodau ei phlaid ei hun rym go sylweddol drosti.
A chyda'r arolygon barn yn ei rhoi ymhell ar y blaen i'r blaid Lafur, does dim dwywaith mai'r gobaith yw y byddai honno'n broblem fyddai'n diflannu gydag etholiad cynnar hefyd.
Ond mae'r blaid Lafur eisoes yn ei chyhuddo hi o chwarae gwleidyddiaeth, ac o roi ei phlaid o flaen y wlad.
Ac yn sicr mae 'na risg y bydd yr etholwyr yn teimlo'r un peth - faint o bobl fydd yn croesawu pleidlais arall mor fuan?
Ond mae'n amlwg, er gwaethaf y protestiadau cyson dros y misoedd diwethaf, fod y temtasiwn i gynyddu ei mwyafrif a sicrhau mandad dros y trafodaethau Brexit anodd sydd i ddod wedi bod yn ormod iddi.
Paratowch eich hunain, mae 'na chwe wythnos o ymgyrchu caled iawn o'n blaenau.