Theresa May yn bwriadu cynnal etholiad cyffredinol buan
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi cyhoeddi y bydd yn gofyn i Dŷ'r Cyffredin bleidleisio o blaid cynnal etholiad cyffredinol ar fyr rybudd ar 8 Mehefin.
Mewn cam annisgwyl, wrth siarad o flaen 10 Downing Street, dywedodd fod y wlad yn dod at ei gilydd yn dilyn pleidlais Brexit y llynedd, ond nad oedd gwleidyddion y gwrthbleidiau yn San Steffan wedi gwneud hynny.
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd ddydd Mercher ar argymhelliad y Prif Weinidog, ac mae'r blaid Lafur wedi dweud y bydd yn pleidleisio gyda'r llywodraeth.
Rhaid i Theresa May dderbyn cefnogaeth y senedd i gynnal etholiad cyn dyddiad swyddogol yr etholiad nesaf oedd wedi ei chlustnodi - yn 2020.
Byddai etholiad cyffredinol ym mis Mehefin yn sicrhau arweinyddiaeth gref a chadarn wrth i'r llywodraeth gynnal trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y misoedd i ddod, meddai Mrs May.
"Ar foment genedlaethol arwyddocaol fe ddylai fod undod yn San Steffan ond yn lle hynny mae rhwygiadau. Mae'r wlad yn dod at ei gilydd ond dyw San Steffan ddim."
'Cyndyn' o alw etholiad
Dywedodd Mrs May bod y pleidiau eraill yn gwneud eu gorau i lesteirio amserlen y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd: "Mae ein gwrthwynebwyr yn credu bod mwyafrif y llywodraeth mor fach y byddwn yn simsanu, y gallen nhw ein gorfodi i newid llwybr. Ond maen nhw'n anghywir.
"Os nad ydyn ni'n cynnal pleidlais gyffredinol rŵan bydd eu gemau gwleidyddol yn parhau."
Dywedodd hefyd bod y rhwygiadau yn peryglu ymdrechion y llywodraeth i gael bargen dda i Brydain wrth adael ac yn achosi "ansefydlogrwydd" i'r wlad.
Ychwanegodd ei bod wedi bod yn gyndyn o gymryd y cam o alw am etholiad, ond y byddai'r etholiad er budd y wlad.
Dywedodd arweinydd y blaid Lafur yn San Steffan, Jeremy Corbyn: "Rydw i'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i roi cyfle i bobl Prydain i bleidleisio dros lywodraeth fydd yn rhoi buddiannau'r mwyafrif yn gyntaf."
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies mai dyma'r "penderfyniad iawn i'r wlad".
"Rydyn ni eisiau i Gymru a Phrydain ddod allan o'r cyfnod yma yn gryfach, yn decach ac yn edrych fwy tuag allan nag erioed, ac fe fyddwn ni'n glynu wrth ein cynllun ar gyfer Prydain gryfach," meddai.
Ond yn dilyn ei chyhoeddiad, trydarodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: "Wel, nes i ddim gweld hynny'n dod. Mae galw etholiad yng nghanol etholiad arall yn od. Proses heddwch Gogledd Iwerddon yn cael ei hanwybyddu?"
Ychwanegodd mewn ail neges: "Mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'r etholiad yma "er budd y wlad". Dylai'r ffocws fod ar Brexit a'r economi, nid polau piniwn."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo ein gwlad i lwybr economaidd afreolus eithafol.
"Mae Cymru angen ASau fydd yn herio'r Torïaid a bod yn llais rhesymol yn y Senedd, gan amddiffyn cysylltiadau economaidd hanfodol ein gwlad gydag Ewrop a gweddill y byd."
Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu hefyd gan arweinydd UKIP yn y Cynulliad Neil Hamilton: "Mae hyn yn gyfle gwych i'r etholwyr bleidleisio i gael gwared â'r ASau oedd eisiau aros yn rhan o'r UE yng Nghymru, ac ethol AS UKIP fydd yn cynrychioli eu buddiannau yn y senedd."
Ychwanegodd Mark Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru y byddai'r etholiad yn "gyfle i newid cyfeiriad y wlad".
"Os ydych chi eisiau osgoi Brexit caled, os ydych chi eisiau cadw Prydain yn rhan o'r farchnad sengl, os ydych chi eisiau Prydain sydd yn agored, goddefgar ac unedig, dyma'ch cyfle," meddai.
Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Grenville Ham fod yr etholiad yn "gyfle gwych i roi stop ar lymder" gan fod "pleidiau wedi dilyn ideoleg sydd wedi gorfodi caledi diangen ar y bobl fwyaf tlawd ac anghenus ym Mhrydain".
Cefnogaeth ASau
O dan reolau'r Ddeddf Cyfnod Seneddol Sefydlog, does gan y Prif Weinidog ddim hawl i gyhoeddi etholiad cyffredinol ar fyr rybudd heb gefnogaeth aelodau Tŷ'r Cyffredin.
Yn ôl y polau piniwn diweddaraf, mae gan y Ceidwadwyr fantais sylweddol dros y blaid Lafur - gyda'r Torïaid 21 o bwyntiau ar y blaen yn ôl YouGov.
Bydd yr etholiad sydyn hefyd yn golygu y bydd pobl Cymru'n pleidleisio dros 40 o Aelodau Seneddol, yn hytrach na 29 o aelodau, fel oedd wedi ei fwriadu petai'r newidiadau i ffiniau seneddol wedi dod i rym cyn etholiad 2020.
Cafodd Mrs May ei hethol yn Brif Weinidog ym mis Gorffennaf 2016, lai na mis wedi'r refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe wnaeth ei rhagflaenydd David Cameron, oedd wedi bod yn brif weinidog ers 2010, ymddiswyddo y diwrnod wedi'r bleidlais Brexit.