Plant i wneud profion ysgol ar-lein o'r flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd profion darllen a rhifedd blynyddol i blant rhwng chwech ac 14 oed yng Nghymru yn cael eu cwblhau ar-lein o'r flwyddyn nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Yn lle profion ar bapur bydd asesiadau ar-lein all gael eu haddasu i sgiliau disgyblion yn cael eu cyflwyno.
Dywedodd y llywodraeth y byddai'r newid yn helpu disgyblion, rhieni ac athrawon.
Er i Blaid Cymru groesawu lleihad mewn "biwrocratiaeth", rhybuddiodd y blaid a'r Ceidwadwyr Cymreig am broblemau posib gyda chysylltiadau i'r we.
Teilwra profion
Ers 2013 mae pob plentyn ym mlynyddoedd dau i naw yng Nghymru yn gwneud prawf darllen a rhifedd.
Mae gweinidogion yn dweud bod y profion yn helpu i fonitro perfformiad ac adnabod lle mae angen cymorth.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd cynnal profion ar-lein yn cynnig asesiadau wedi eu teilwra i ddisgyblion ac adborth mwy manwl.
Dywedodd y llywodraeth y byddai'r profion newydd hefyd yn lleihau amser aros am ganlyniadau, a bydd modd bod yn fwy hyblyg gyda'r profion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y byddai'r profion yn "codi safonau" drwy ddangos y "camau nesaf" i blant eu cymryd yn eu haddysg.
"Bydd y disgyblion yn gwneud asesiadau a fydd yn addasu i'w hanghenion a'u sgiliau.
"Byddant hefyd yn elwa ar y marcio awtomatig a bydd ysgolion yn derbyn adborth yn gynt nag o'r blaen ac yn cael gwell darlun o'r hyn y gallant ei wneud i helpu eu dysgwyr i symud ymlaen."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Llyr Gruffydd, bod asesiadau gan athrawon yn rhoi "trosolwg llawer mwy gwerthfawr" na phrofion.
Ond ychwanegodd: "Os yw Llywodraeth Cymru am barhau gyda phrofion, yna mae unrhyw beth sy'n lleihau biwrocratiaeth yn cael ei groesawu mewn egwyddor ond mae angen sicrwydd na fydd asesiadau ar-lein yn lleihau'r ffocws ar yr unigolyn."
Dywedodd hefyd bod problemau'n bosib gyda chysylltiadau band eang araf mewn rhai rhannau o'r wlad.
'Cymharu perfformiad'
Mae'r Aelod Cynulliad Darren Millar o'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r profion ac yn credu ei bod yn "gyfle i fesur cynnydd disgyblion."
Ychwanegodd bydd y profion yn "galluogi rhieni ac athrawon i gymharu perfformiad rhwng ac o fewn ysgolion".
"Fodd bynnag, mae'r fenter hon yn anwybyddu'r ffaith annerbyniol bod cannoedd o blant ledled Cymru yn dal i fod dan anfantais addysgol oherwydd cysylltiad band eang annigonol yn y cartref ac yn yr ysgol," meddai.
"Mae rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i unioni hyn os ydynt am gyflwyno'r gyfundrefn brofi newydd yn llwyddianus."
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan UKIP.
Mae ysgrifennydd undeb yr NUT wedi dweud nad yw'r "profion safonedig yn ffitio mewn i ethos y system addysg bresennol yng Nghymru."
Dywedodd David Evans: "Mae NUT Cymru yn dal i fod o'r farn nad yw'r profion safonedig yn ffitio mewn i ethos y system addysg bresennol yng Nghymru, ac yn sicr nid ochr yn ochr ag egwyddorion y cwricwlwm fel y'i cyflwynwyd gan yr Athro Donaldson.
"Byddem wedi hoffi gweld yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyhoeddi dileu'r profion hyn, fodd bynnag, mae'n deg dweud y gallai'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno gael effaith gadarnhaol ar y ffordd y mae'r profion yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd.
"Mae dau o'r pryderon mawr yr ydym wedi'u codi gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol yn cynnwys y llwyth gwaith mae'r profion hyn wedi creu ar gyfer athrawon, a'r ffordd y maent wedi rhwystro hyder nifer fawr o ddisgyblion.
"Mewn theori, gan wneud y profion yn broses ar-lein a drwy sicrhau eu bod yn addas bydd yn caniatáu disgyblion i weithio ar eu galluoedd unigol ac yn eu galluogi i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. "Yn naturiol, bydd yn rhaid i ni fonitro gweithrediad y dull newydd ar waith ac rwy'n siwr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a'i hadran yn ystyried yr adborth o'r proffesiwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2016