Cynyddu mesurau diogelwch yn 'Steddfod yr Urdd er lles pawb

  • Cyhoeddwyd
Aled Sion

Bydd y mesurau diogelwch ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed yn cynyddu yn dilyn ymosodiad Manceinion "er mwyn sicrhau mwynhad yr holl ymwelwyr i'r ŵyl arbennig hon", medd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Aled Siôn.

"Bydd y mesurau yn cynnwys mwy o staff diogelwch a phresenoldeb yr heddlu ar y maes, ynghyd ag archwiliadau bagiau yn y ganolfan groeso.

"Gofynnwn yn garedig i'n hymwelwyr adael digon o amser i gyrraedd y maes, a thra ar y maes os oes gan unrhyw ymwelwydd gwestiwn neu gonsyrn dylid cysylltu â staff yr Urdd.

"Byddwn yn parhau i drafod a dilyn argymhellion yr awdurdodau gydag unrhyw ddatblygiadau.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu dealltwriaeth o'r sefyllfa ac yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Bencoed.

Ychwanegodd Aled Siôn bod yr Urdd wedi cael mwy o gyfarfodydd nag arfer gyda'r heddlu yn ystod y flwyddyn oherwydd rownd derfynol pencampwriaeth cynghrair y pencampwyr.

Ond dywedodd nad yw yn pryderu y bydd llai o bobl yn dod i'r wŷl eleni oherwydd rownd y bencampwriaeth.

Dyma'r tro cyntaf i'r bencampwriaeth ddod i Gymru gyda'r gêm rhwng Juventus a Real Madrid yn digwydd yn Stadiwm Principality Caerdydd nos Sadwrn a ffeinal y merched nos Iau.

Yn ôl Aled Siôn mae'r un niferoedd wedi cofrestru i gystadlu ar ddydd Sadwrn olaf yr eisteddfod, sydd yn dechrau Mai 27 ar dir Campws Pencoed, Coleg Pen-y-bont ag arfer.

"Mae rhan fwyaf o bobl sydd yn dod i 'Steddfod yr Urdd yn dod ar gyfer y cystadlu. Yn amlwg mae'n ddigwyddiad mawr, mae ymarferoldeb y peth yn taro ni fwy.

"Ond yn sicr mae'r dydd Sadwrn olaf, mae'r (tocynnau) yn hanner pris gyda ni ers sawl blwyddyn nawr. Da ni yn cael cynulleidfa dda i ddod ar y dydd Sadwrn.

"Yn amlwg gewn ni weld shwt eith hi ond dydyn ni ddim yn pryderu yn ormodol. Fe fydd y cystadlu cyn gryfed ar y dydd Sadwrn ag arfer.

"Mae hwnna yn golygu fe fydd y dorf a'r gynulleidfa 'da ni yn disgwyl i ddod yn dod yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dyw'r eisteddfod chwaith ddim wedi clywed bod pobl wedi cael trafferthion dod o hyd i lety am fod miloedd o gefnogwyr yn mynd i fod yn tyrru i dde Cymru ar gyfer y gemau ac yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith mae gwestai lleol wedi elwa o'r digwyddiad.

"O'n safbwynt ni, da ni ddim wedi cael sylwadau gan neb sydd yn pryderu neu sydd ddim wedi llwyddo i gael llety...Felly da ni yn cymryd bod y sefyllfa yn iach, " meddai Aled Siôn.

Eleni fe fydd mwy o liw a mwy o frandio ar yr adeiladu er mwyn gwneud i'r maes edrych yn fwy atyniadol a bod hi'n haws i bobl allu gweld y pebyll gwahanol.

Cadw pobl ifanc ar y maes

Bydd gig yn cael ei gynnal ar y nos Sadwrn hefyd am yr ail flwyddyn yn olynol gyda Swnami yn perfformio. Y syniad ydy rhoi mwy o "ysbryd o ŵyl" ar y maes erbyn diwedd yr wythnos a hynny am fod aelwydydd a phobl ifanc dros 18 yn cystadlu. Mae lle iddyn nhw wersylla hefyd.

Roedd rhai aelwydydd yn y gorffennol yn mynd adref wedi'r cystadlu meddai.

"Nath hwn yn sicr llynedd gadw aelwydydd a chadw pobl ar y maes yn hwyrach.

"Gobeithio bod hwn yn mynd i ddechre traddodiad, lle mae pawb ar ôl i'r cystadlu dod i ben am ryw hanner awr wedi saith, wyth o'r gloch, fydd pawb wedyn yn automatic yn mynd i bentref Mistar Urdd, i'r llwyfan perfformio ac yn mynd fanna am ychydig o oriau."

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n bwysig cadw pobl ar y maes ar ôl y cystadlu'

Mae'n dweud bod yr eisteddfod yn gyson yn moderneiddio ac yn trafod syniadau.

Yn ogystal â cheisio diddanu plant a phobl ifanc pan maen nhw ar y maes, mae'r elfen gystadlu hefyd yn bwysig.

Y cystadlu sydd yn denu'r mwyafrif i'r maes gyda rhwng 70-75% o bobl yn dod am y rheswm hynny, meddai'r cyfarwyddwr.

"'Da ni yn datblygu ac yn edrych ar wahanol gystadleuaeth, fel bod ni yn gallu ehangu mewn ambell i faes.

"'Da ni yn sôn am falle ddileu ambell i gystadleuaeth oherwydd os nad yw hi yn boblogaidd, man a man i ni newid ac addasu.

"Gan mai gŵyl gystadlu ydyn ni dyna yw'r peth pwysicaf i ni. Sut ydyn ni yn mynd i ddenu pobl i gystadlu? Nid cael mwy o gystadlaethau yw'r ateb ond gwneud yn siŵr bod y cystadlaethau sydd gyda ni yn boblogaidd."