Cyhoeddi rhestr fer Ysgoloriaeth Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd
Bryn Terfel

Mae panel o feirniaid wedi dewis y chwe chystadleuydd fydd yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni.

Roedd y grŵp yn dewis y cystadleuwyr yr oedden nhw'n ei gredu oedd fwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed.

Y chwech fydd yn cystadlu eleni fydd:

  • John Ieuan Jones - Aelod Unigol, Cylch Bro Dulais

  • Megan Llŷn - Aelwyd Llundain

  • Harry Lovell Jones - Aelwyd Llundain

  • Daniel Jones - Ysgol Gyfun Plasmawr

  • Cedron Siôn - Aelod Unigol, Cylch Eifionydd

  • Sioned Hâf Llywelyn - Aelwyd Crymych

Delyth Medi, Sioned Terry, Eirlys Britton, Davinder Singh a Catherine Ayres oedd ar y panel dewis.

Bydd yr ysgoloriaeth eleni yn cael ei chynnal yn Theatr Sony, nos Sadwrn y 14 Hydref 2017, gyda'r tocynnau ar werth ddiwedd Mehefin.

Bydd yr enillydd yn cael gwobr ariannol o £4,000 i'w ddefnyddio er mwyn datblygu eu talent i'r dyfodol.

Dywedodd y panel, "Bu tipyn o drafod rhyngom, ond mae pawb yn gytûn ac yn hapus gyda'r casgliad sydd gennym ar gyfer creu cystadleuaeth ddiddorol.

"Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld mwy, ac i'r cystadleuwyr gael rhoi eu stamp eu hunain ar y perfformiad. Nawr bydd ganddyn nhw 12 munud i werthu eu hunain i ni ym mis Hydref eleni."