Penfro'n paratoi i ddadorchuddio cerflun o Harri VII
- Cyhoeddwyd
Mae tref hanesyddol yn Sir Benfro yn paratoi i ddadorchuddio cerflun efydd i ddathlu un o feibion enwocaf Penfro.
Ganwyd Harri Tudur yng Nghastell Penfro yn 1457, yn fab i Margaret Beaufort ac Edmund Tudur.
Yn 1485, fe drechodd byddin Richard III ym mrwydr Bosworth ac fe goronwyd yn Harri VII, a'r unig Gymro i fod yn frenin Lloegr a Chymru.
Mae'r cerflun, sy'n mesur wyth troedfedd, yn cyrraedd Sir Benfro ddydd Iau cyn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig ddydd Sadwrn.
Bydd y cerflun yn sefyll ar bont yn edrych allan tuag at Gastell Penfro.
Mae pobl leol wedi cyfrannu £20,000 tuag at gost y cerflun, gyda chyngor Sir Benfro a Valero yn cyfrannu cyfanswm o £30,000.
Y cerflunydd Harriet Addyman fodelodd y darn cyn iddo gael ei orchuddio mewn efydd.
Gobaith rhai pobl yn lleol yw sefydlu canolfan Harri VII ym Mhenfro ac mae arian wedi'i ddiogelu ar gyfer astudiaeth i weld a fyddai hynny'n bosib.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Asman ei bod wedi ei "ysbrydoli" i ddilyn y syniad yn dilyn ymweliad â chanolfan Richard III yng Nghaerlŷr.
Dywedodd wrth BBC Cymru bod "diddordeb mawr" ymysg pobl leol yn y syniad.