Gohirio araith y Frenhines yn bosibilrwydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd araith y Frenhines yn cael ei ohirio "am rai dyddiau".
Wrth i'r ansefydlogrwydd gwleidyddol barhau yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, mae yna ddryswch ynglŷn â phryd y bydd y llywodraeth yn cyflwyno ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd disgwyl i'r frenhines draddodi'r araith yn San Steffan ar Fehefin 19.
Mae un gweinidog wedi dweud ei fod yn "ffyddiog" y bydd y Ceidwadwyr a'r DUP yn medru dod i gytundeb o fewn y dyddiau nesaf fel bod modd sefydlu llywodraeth leiafrifol.
Chafodd y Ceidwadwyr ddim mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol er mwyn llywodraethu ar ben ei hunain.
Os bydd cytundeb rhwng y ddwy blaid, gallai hynny olygu bod y llywodraeth yn medru cyflwyno ei rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf i Dŷ'r Cyffredin mor gynnar â dydd Llun nesaf.
Ond mae'r prif Ysgrifennydd Gwladol, Damien Green wedi dweud bod hi'n bosib y bydd yna oedi cyn traddodi araith y frenhines.
Fe ddywedodd Mrs May wrth ei haelodau seneddol y byddai yn barod i barhau i wasanaethau fel Prif Weinidog os oedd ganddi eu cefnogaeth.
Ychwanegodd: "Fi wnaeth ein cael ni i'r llanast yma, a fi wneith ein cael ni allan o'r llanast."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2017