'Bygythiad i heddwch Gogledd Iwerddon?'

  • Cyhoeddwyd
Paul Murphy

Mae'n edrych yn debygol y bydd proses heddwch Gogledd Iwerddon yn cael ei "haberthu er mwyn achub croen Theresa May", medd yr Arglwydd Murphy o Dorfaen.

Mae Mrs May yn ceisio sicrhau cytundeb gyda phlaid y DUP o Ogledd Iwerddon wedi iddi golli ei mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.

Yn ôl yr Arglwydd Murphy, sydd hefyd yn gyn Aelod Seneddol Llafur Torfaen, gallai cytundeb rhwng y llywodraeth a'r DUP danseilio degawdau o ymdrechion i ddod â sefydlogrwydd i Ogledd Iwerddon.

Daeth sylwadau Paul Murphy wrth iddo gael ei holi gan Olygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick ar raglen Sunday Supplement fore Sul.

Ychwanegodd Mr Murphy: "Mae proses heddwch Gogledd Iwerddon yn ddibynnol ar y sicrwydd a gafwyd gan lywodraeth Prydain i "beidio â chael diddordeb hunanol, economaidd na strategol yng Ngogledd Iwerddon".

"Mae'r peth yn codi ofn," meddai'r Arglwydd Murphy gan ein bod wedi treulio 20 mlynedd yn dod â heddwch a sefydlogrwydd i Ogledd Iwerddon.

"Mae'r cytundeb sy'n cael ei gynnig nawr yn difetha popeth.

"Cyn y cyhoeddiad am etholiad cyffredinol ro'wn ynghanol trafodaethau i sefydlu cynulliad a gweithgor ym Melffast."

Ychwanegodd: "Mae angen ystyried hefyd bod Sinn Fein yn blaid fawr yng Ngogledd Iwerddon - mae nhw yn amlwg yn mynd i fod yn anhapus fod y DUP yn gweithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth Prydain."

Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid i Brydain aros yn niwtral," meddai Peter Hain

'Angen aros yn niwtral'

Yn y cyfamser mae cyn Aelod Seneddol Castell-nedd, Peter Hain, a fu hefyd yn ysgrifennydd yng Ngogledd Iwerddon wedi codi pryder ynglyn â'r cytundeb posib.

Dywedodd bod heddwch yn y dalaith yn ddibynnol ar Lywodraeth Prydain yn aros yn niwtral.

Meddai: "Os yw'r llywodraeth, os yw'r prif weinidog yn ddibynnol ar y DUP - yna gallai pob math o fargeinio ddigwydd ac fe allai hynny gael effaith ar gytundeb Gwener y Groglith - fe allai'r broses gyfan fod mewn peryg ac mae'n bosib y bydd hyder pleidiau eraill yn y broses heddwch yn cael ei ladd.

"Nid dim ond Sinn Fein - mae pleidiau eraill fel yr SDLP, Unoliaethwyr Ulster a phlaid y Gynghrair - maent i gyd yn allweddol i ddatblygiad proses heddwch Gogledd Iwerddon.

"Rwy'n meddwl y bydd Theresa May yn ei chael hi'n anodd taro bargen fydd ddim yn rhoi arian ychwanegol i Ogledd Iwerddon - ac os yw hynny yn digwydd bydd Cymru a'r Alban yn gofyn 'beth amdanom ni'. Mae goblygiadau mawr i'r cytundeb."

Mae Downing Street a Phlaid Unoliaethol y DUP wedi cyhoeddi datganiadau ar wahân yn pwysleisio nad oes cytundeb wedi ei gwblhau eto rhwng y ddwy blaid.

Mae angen cefnogaeth deg gwleidydd y blaid yng Ngogledd Iwerddon ar Theresa May er mwyn sicrhau mwyafrif yn y Senedd ar ôl canlyniad yr etholiad cyffredinol.

Bydd Arlene Foster - arweinydd y DUP yn teithio i Llundain ddydd Mawrth ar gyfer trafodaethau.

'Angen rhoi cyfle iddi ddangos arweiniad'

Yn y cyfamser, mae rhai Ceidwadwyr wedi cwestiynu hawl y Prif Weinidog i barhau yn ei swydd.

Ond ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru fore Sul dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb bod angen cyfnod o sefydlogwydd nawr a chyfle i Theresa May ddangos arweiniad.

Mae e ac aelodau seneddol eraill o Gymru yn parhau i ddisgwyl cyhoeddiad a fyddant yng nghabinet newydd Theresa May.

Brynhawn Sul daeth cadarnhad y bydd Alun Cairns yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.