£144m i ariannu prentisiaethau

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyhoeddi buddsoddiad o £144m gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd er mwyn ariannu dros 50,000 o brentisiaethau yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad yn ariannu 52,000 o brentisiaethau yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd dros y pedair blynedd nesaf, gyda'r rhan fwyaf wedi eu targedu at bobl ifanc 16-24 oed.

Bydd y buddsoddiad yn ariannu prentisaethau mewn nifer o bynciau traddodiadol, a llai traddodiadol, gan gynnwys gwaith adeiladu, peirianneg, technoleg gwybodaeth a manwerthu.

'Newyddion ardderchog'

Dywedodd y Prif Weinidog: "Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cefnogi dros 50,000 o bobl ifanc wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfa, gan roi cymorth iddyn nhw dderbyn cymhwyster tra'n gweithio ac ennill cyflog ar yr un pryd.

"Rydym yn disgwyl gallu cyhoeddi buddsoddiad pellach mewn rhannau eraill o'n cynllun prentisiaeth yn yr wythnos nesaf, ond mae'r arian hwn ar gyfer gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn newyddion ardderchog.

"Mae'n dangos ein hymrwymiad i hybu'r economi tra'n sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn sicrhau llwyddiant."

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Julie James: "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn newyddion ardderchog i bobl ifanc ac i gyflogwyr.

"Nid yn unig fydd y buddsoddiad o £144m yn helpu ein pobl ifanc i dderbyn y sgiliau, profiad a chymwysterau mae angen arnyn nhw i lwyddo yn y gweithle, bydd hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau lleol gan sicrhau bod gan gyflogwyr y gweithlu sydd ei angen er mwyn ffynnu yn yr economi fodern."