Y Bala: Argymell tynnu statws eglwysig oddi ar ysgol
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhai o drigolion ardal Y Bala fod yn agos at ennill eu hymgyrch i dynnu statws eglwysig oddi ar yr ysgol gydol oes newydd sy'n cael ei chodi yno.
Ar hyn o bryd mae'r gwaith yn parhau i adeiladu campws newydd gwerth £10m i blant 3-19 oed gyda statws eglwysig ar safle presennol Ysgol y Berwyn.
Ond statws cymunedol mae llawer yn yr ardal am ei weld ar y sefydliad addysg newydd.
Nawr bydd argymhelliad i newid y statws eglwysig yn mynd o flaen cabinet Cyngor Gwynedd, gydag argymhelliad arall posib wedyn ar statws newydd yn cael ei wneud erbyn mis Medi.
'Statws cymunedol'
Y cynllun presennol ydy uno dwy o ysgolion cynradd y dref, sef Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - sy'n Ysgol Eglwys, 'efo'r ysgol uwchradd.
Ond mae gwrthwynebiad mawr wedi bod ym mhum plwy Penllyn i'r bwriad i ddynodi'r ysgol newydd yn ysgol eglwys.
Ym mis Chwefror gofynnodd Cyngor Gwynedd am farn corff llywodraethol chwech o ysgolion dalgylch Y Bala ynglŷn â'r statws, ac roedden nhw'n unfrydol eu barn am dynnu'r statws eglwysig a chael statws cymunedol.
Yr argymhelliad fydd yn mynd gerbron cabinet Cyngor Gwynedd ar 27 Mehefin ydy y dylid tynnu'r statws eglwysig yn ôl.
Dywedodd y cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet y cyngor, fod yr argymhelliad wedi ei wneud yn dilyn y trafodaethau gydag ysgolion ym mhum plwy Penllyn.
"Os fyddan nhw'n derbyn yr argymhelliad, bydd proses ymgynghori arall wedyn yn cychwyn i gynnig statws amgen," meddai.
Mae Gwion Lynch, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol y Berwyn, wedi croesawu'r cam ac am weld statws cymunedol yn cael ei roi ar yr ysgol newydd yn y pen draw.
"Ryden ni'n croesawu wrth reswm y datblygiad yma, oherwydd fel corff llywodraethol 'dan ni wedi dadlau o'r dechrau mai ysgol gymunedol sy'n addas ar gyfer ardal Y Bala, Edeyrnion a rhannau o Uwchaled," meddai.
'Cymuned yn elwa'
Wrth ymateb i'r argymhelliad, dywedodd llefarydd ar ran Esgobaeth Llanelwy: "Mae Esgobaeth Llanelwy wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn datgan ei bwriad i roi plant a chymuned Y Bala a Phenllyn yng nghalon cynlluniau ar gyfer darpariaeth ysgol leol."
Daw hynny yn dilyn cyfarfodydd gyda swyddogion Cyngor Gwynedd er mwyn ceisio gweithio gyda'i gilydd i ddod i gasgliad boddhaol ynghylch dadleuon a thrafodaethau dros ddyfodol addysg yn yr ardal.
Ychwanegodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes yr Esgobaeth: "Anghenion y disgyblion presennol a disgyblion y dyfodol yn yr ysgol newydd yw ein blaenoriaeth.
"Mae Esgobaeth Llanelwy yn dymuno cefnogi ffordd ymlaen sy'n gwarchod buddsoddiad o £10m ac sy'n caniatáu i'r ysgol newydd agor cyn gynted ag y bo modd fel y gall plant Y Bala, Penllyn a'r gymuned ehangach elwa ar hyn."
Mae Cyngor Gwynedd wedi pwysleisio y bydd y gwaith adeiladu yn parhau ac yn cael ei orffen ar godi'r campws newydd, er bod y trafodaethau ynglŷn â statws yr ysgol newydd yn dal i fynd yn eu blaenau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2016