Cyngor Gwynedd i drafod statws ysgol newydd Y Bala

  • Cyhoeddwyd
ysgol y berwyn
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad y cynllun yw uno dwy o ysgolion cynradd Y Bala gyda'r ysgol uwchradd, Ysgol y Berwyn

Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried ailddechrau'r broses ymgynghori am statws ysgol 3-19 newydd Y Bala mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Ddiwedd Ionawr fe ysgrifennodd llywodraethwyr yr ysgol uwchradd bresennol, Ysgol y Berwyn, at y cyngor yn galw arnyn nhw i ailystyried statws eglwysig yr ysgol newydd.

Mae dros 500 hefyd wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r dynodiad eglwysig, gan ddweud eu bod am weld statws cymunedol i'r campws newydd.

Y cynllun yw uno dwy o ysgolion cynradd y dref, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant - sy'n ysgol eglwys - gyda'r ysgol uwchradd.

Ar hyn o bryd, mae'r gwaith o adeiladu'r campws newydd ar safle presennol Ysgol y Berwyn yn parhau.

Mae'r cyngor sir yn dweud mai'r gobaith yw agor yr ysgol erbyn 2018. Pryder rhai yw y bydd cael ymgynghoriad arall yn achosi oedi.