AC yn galw am fuddsoddi yn stadiwm pêl-droed Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Cae Ras Wrecsam

Mae'r Cae Ras yn Wrecsam yn haeddu hwb ariannol os oes gan y llywodraeth gyllid ar gyfer lleoliad digwyddiadau newydd yng Nghaerdydd.

Dyna farn AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, a ddywedodd ei fod wedi "darllen gyda syndod" am gynlluniau Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ar gyfer arena newydd yn y brifddinas.

Mynnodd yr AC dros Ogledd Cymru fod "digonedd o leoliadau ar hyd coridor yr M4 eisoes", a bod y gogledd yn "haeddu gwell".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai angen i Glwb Pêl-droed Wrecsam, sydd yn defnyddio'r maes, gyflwyno cynlluniau ar ei gyfer.

'Cartref ysbrydol'

Gofynnodd Mr Gruffydd ble oedd y "weledigaeth a'r uchelgais" i "ddatblygu canolfannau rhagori tebyg yma yn y gogledd".

Ychwanegodd fod meysydd fel Parc Eirias ym Mae Colwyn eisoes wedi datblygu i fod yn hwb ar gyfer rygbi ac adloniant, ond y gallai'r Cae Ras wneud â mwy o gefnogaeth.

Yn 2008 cafodd y maes ei chydnabod yn swyddogol fel y stadiwm bêl-droed hynaf yn y byd sydd yn parhau i gynnal gemau rhyngwladol, ac mae ganddi hanes o fod yn faes chwaraeon ers 200 mlynedd.

Llynedd fe wnaeth cefnogwyr Wrecsam, sydd yn rhedeg y clwb, arwyddo prydles 99 mlynedd i redeg y maes.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw tîm cyntaf dynion Cymru heb chwarae ar y Cae Ras ers 2008, ond mae'r tîm dan-21 yn parhau i ddefnyddio'r maes

Cafodd y Cae Ras ei ddisgrifio gan Mr Gruffydd fel "cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru" oedd yn "symud yn ei flaen" dan berchnogaeth y gymuned.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan CPD Wrecsam a'r Cae Ras hanes hir a balch. Y clwb a'r perchnogion fyddai'n gorfod cyflwyno cynlluniau ac achos busnes cynaliadwy ar gyfer unrhyw welliannau i'r stadiwm.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod a'r clwb ynglŷn â chynlluniau'r dyfodol ac rydyn ni hefyd wedi cynnal trafodaethau â grwpiau eraill ynglŷn â chyfleusterau eraill yng ngogledd Cymru.

"Does dim cefnogaeth ariannol wedi ei addo i arena yng Nghaerdydd, ac mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i gefnogi datblygiad cyfleusterau chwaraeon ar gyfer yr 21ain Ganrif ar draws Cymru."