Camau brys i asesu peryglon tân ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae byrddau iechyd Cymru yn cynnal archwiliadau brys o ddiogelwch ysbytai ac adeiladau eraill yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell.
Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd wedi cadarnhau eu bod yn archwilio eu hadeiladau.
Fe ddaw'r camau diweddara wedi cais gan Lywodraeth Cymru yn sgil y trychineb yn Llundain lle bu farw o leiaf 79 o bobl.
Bydd y byrddau iechyd yn adrodd yn ôl at Lywodraeth Cymru.
Mae un ysbyty - Ysbyty Singleton yn Abertawe - yn tynnu gorchudd o un rhan o'r adeilad er mwyn cynnal ymchwiliad pellach gydag arbenigwyr.
Mynnodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fod y deunydd sy'n cael ei archwilio yn wahanol i'r cladin a ddefnyddiwyd yn nhwr Grenfell, ac nad yw'n fflamadwy.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd eu bod yn barod i gymryd camau ar unwaith os yw arbenigwyr yn mynegi unrhyw bryderon.
Yn ôl llefarydd:"Mae ein holl adeiladau yn cydymffurfio â rheolau tân a diogelwch."
Gwaith atgyweirio
Cafodd gwaith atgyweirio ei gynnal ar Ysbyty Singleton yn ddiweddar, gan gynnwys gosod cladin a deunydd insiwleiddio newydd.
Fe ofynnodd BBC Cymru i bob un o'r Byrddau Iechyd am eu cynlluniau diogelwch tan:
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod adolygiad yn cael ei gydlynu gan uwch swyddog tân, ac mae cyngor wedi cael ei roi i staff
Dywedodd Bwrdd Hywel Dda " Rydym wedi adolygu ar frys diogelwch pob un o'r adeiladau sydd â chladin fel rhan o asesiad risg tân. Yn unol â hynny fe fyddwn yn adolygu ein trefniadau diogelwch tan ac yn adrodd i Lywodraeth Cymru"
Mae Bwrdd Cwm Taf yn cynnal adolygiad brys llawn o adeiladau sydd â chladin allanol
Yn ôl Bwrdd Caerdydd a'r Fro bydd eu hadolygiad brys yn cael ei gwblhau erbyn yfory ( Dydd Mercher)
Dywedodd Bwrdd Aneurin Bevan eu bod wedi cynnal adolygiad brys yn barod
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn bwriadu gorffen y rhan gyntaf o'r adolygiad erbyn yfory.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2017