Statws canolfan drawma arbenigol i'r Ysbyty Athrofaol?

  • Cyhoeddwyd
Canolfan drawma arbenigol

Mae BBC Cymru'n deall fod panel o arbenigwyr wedi argymell clustnodi'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd yn ganolfan drawma arbenigol.

Fe fyddai hyn yn golygu hon fyddai'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i ddod yn brif ganolfan sy'n arbenigo mewn gofal cleifion ag anafiadau allai beryglu bywydau.

Roedd yr Ysbyty Athrofaol yn y brifddinas ynghyd ag Ysbyty Treforys ger Abertawe wedi gwneud ceisiadau i gael y statws.

Ond gwrthododd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru â chadarnhau fod penderfyniad wedi ei wneud, gan ddweud eu bod "yn falch o'r cynnydd y mae'r gwasanaeth iechyd wedi ei wneud wrth ddatblygu'r cynlluniau ar gyfer rhwydwaith drawma yn y de, ond nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar leoliad y ganolfan drawma hyd yma".

Mae mwy na 25 o ganolfannau tebyg eisoes yn bodoli yn Lloegr - ond does yr un ar hyn o bryd yng Nghymru.

Gofynnodd y Gwasanaeth Iechyd i banel o arbenigwyr allanol asesu ceisiadau'r ddau ysbyty.

Mae BBC Cymru'n deall fod y panel wedi dod i'r casgliad mai'r Ysbyty Athrofaol yw'r dewis gorau, yn rhannol oherwydd yr ystod o wasanaethau iechyd arbenigol sydd eisoes yno.

Yn benodol, dyma'r unig ysbyty yng Nghymru sy'n arbenigo ar lawdriniaethau'r ymennydd - mae nifer sylweddol o achosion trawma difrifol yn ymwneud ag anafiadau i'r pen.

Hefyd, fel lleoliad Ysbyty Plant Cymru, mae'r ysbyty yn cael ei ystyried yn fwy addas ar gyfer trin plant sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol.

Disgrifiad,

Canolfan trawma difrifol: Y sefyllfa yng Nghymru

Eto i gyd roedd ysbyty Treforys, ger Abertawe yn dadlau fod lleoliad yr ysbyty hwnnw yn fwy addas i fod yn ganolfan drawma difrifol - gan fod canran uwch o boblogaeth y de yn byw o fewn awr i Dreforys.

Mae Ysbyty Treforys hefyd yn ganolfan nodedig ar gyfer llosgiadau a llawdriniaethau plastig, sydd eisoes yn trin cleifion o Gymru a Gorllewin Lloegr.

Os yw Caerdydd am fod yn ganolfan drawma arbenigol, yna byddai angen buddsoddiad ychwanegol mewn gwlâu, offer ac arbenigwyr.

Ond y bwriad yw y byddai'r ganolfan yn cydweithio ag ysbytai eraill yn y de fyddai'n cael eu penodi'n unedau trawma difrifol fel rhan o rwydwaith ehangach, er enghraifft fe fyddai'r unedau hyn yn cynnig gwasanaethau adfer arbenigol i gleifion sy'n gwella ar ôl anafiadau a damweiniau difrifol.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rheolwyr Ysbyty Treforys yn dadlau ei fod mewn safle gwell yn ddaearyddol ar gyfer lleoli'r ganolfan drawma

Mae BBC Cymru'n deall fod y panel arbenigol wedi argymell y dylai Treforys gael ei glustnodi'n uned o'r fath.

Ond mae'n ymddangos y bydd yn rhaid aros peth amser eto am benderfyniad terfynol ynglŷn â Chaerdydd a Threforys.

Mae trafodaethau rhwng y gwasanaeth iechyd, y byrddau iechyd unigol a'r Cynghorau Iechyd Cymuned lleol yn parhau, ac os nad oes cytundeb yn y pendraw, mae'n debygol y bydd galw ar yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething i wneud y dewis terfynol.

Mae'r gogledd eisoes yn rhan o rwydwaith drawma arbenigol.

Mae'r gwasanaethau ar gyfer cleifion ag anafiadau difrifol yn y gogledd a rhannau o'r canolbarth yn cael eu darparu trwy rwydwaith trawma Gogledd-orllewin Canolbarth Lloegr/Gogledd Cymru.

Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke yw'r ganolfan drawma difrifol ar gyfer y rhwydwaith.