Elusennau a grŵp chwaraeon yn derbyn cefnogaeth £3.7m
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yng Ngwynedd, clwb rygbi yn Sir Ddinbych a gorsaf radio cymunedol ym Mlaenau Gwent ymysg y grwpiau fydd yn elwa o gronfa £3.7m i wella cyfleusterau mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu enwau'r 13 prosiect fydd yn elwa o'r gronfa i "ddarparu gwasanaethau sy'n hanfodol i'r gymuned".
Bydd yr arian yn cynorthwyo grwpiau i wella cyfleusterau chwaraeon, llety mewn hosteli ar gyfer pobl ifanc digartref, a llyfrgelloedd.
Dywedodd prif weithredwr un elusen sy'n elwa, GISDA yng Nghaernarfon, y byddai'r arian yn mynd at "ddatblygu canolfan greadigol, amlbwrpas".
Y prosiectau fydd yn elwa o'r gronfa yw:
Neuadd Llanrhymni, Caerdydd (£433,000)
Clwb Rygbi Y Rhyl (£490,000)
Grŵp Datblygu Y Fron, Gwynedd (£195,000)
Ymddiriedolaeth Stephens a George, Merthyr Tudful (£55,000)
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Casnewydd (£353,000)
Canolfan Tiddlywinks, Castell Nedd Port Talbot (£152,000)
Partneriaeth Parc Caia, Wrecsam (£390,000)
BRfm Blaenau Gwent (£59,000)
CAB Gwynedd ac Ynys Môn (£235,000)
GISDA, Gwynedd (£370,000)
Plwyf Sgiwen, Castell Nedd Port Talbot (£300,000)
CIC Neyland. Sir Benfro (£500,000)
Prosiect Warws Wrecsam ( £200,000)
Sgiliau newydd
Ymhlith y mudiadau i elwa o'r gronfa mae GISDA yng Nghaernarfon, sydd yn cefnogi pobl ifanc "sy'n agored i niwed".
Bydd yr elusen yn defnyddio'r arian i ddatblygu canolfan i bobl ifanc yng nghanol y dref.
Bydd yr arian yn cynorthwyo GISDA i brynu adeilad ar y Maes a'i ddatblygu yn ganolfan barhaol i helpu pobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd.
Dywedodd Prif Weithredwr GISDA, Sian Elen Tomos: "Rydym wrth ein bodd... Mae na botensial enfawr yma.
"Ni'n awyddus iddo ddatblygu yn lle y gall pobl ifanc ymlacio ac mae gennym syniadau i ddatblygu canolfan greadigol, amlbwrpas."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant bod "mwy i'r cynllun yma na gwella adeiladau yn unig".
"Wrth wneud cais am y grantiau hyn, mae mudiadau cymunedol wedi gorfod dangos sut y bydd y cyfleusterau maen nhw'n eu cynnig yn darparu gwasanaethau sy'n hanfodol i'r gymuned ac a fydd yn helpu i atal neu fynd i'r afael â thlodi.
"Er enghraifft, gweithgareddau ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf neu Deuluoedd yn Gyntaf; rhedeg banc bwyd, cynnal gwasanaethau cynghori neu achub gwasanaeth a fyddai fel arall yn cael ei golli yn y gymuned, er enghraifft siop neu lyfrgell."
Ychwanegodd: "Er mai dyma'r tro olaf i'r arian gael ei ddyfarnu o dan y trefniadau ariannu presennol bydd cynllun diwygiedig yn ailagor yr haf yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2015