Pwyllgor yn clywed mai profion cladin Cymru yw'r rhai cywir
- Cyhoeddwyd
Mae uwch swyddog tân wedi dweud wrth bwyllgor Cynulliad ei fod yn hapus fod y profion cladin gafodd eu gwneud ar dyrau yng Nghymru yn rhai "cywir".
Fore Iau bu uwch swyddogion y Gwasanaethau Tân ac Achub yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad undydd gafodd ei drefnu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Cafodd yr ymchwiliad ei drefnu wedi pryderon a godwyd yn sgil trychineb Tŵr Grenfell yn Llundain.
Ers y tân mae swyddogion arbenigol ar draws Cymru wedi bod yn ymweld ag adeiladau uchel.
'700 o fflatiau'
Dywedodd Iwan Cray o Wasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin bod ei gydweithwyr wedi curo ar ddrysau cannoedd o bobol sy'n byw mewn adeiladau uchel.
"Ry'n wedi curo ar ddrysau 700 o fflatiau ers Grenfell," meddai.
"Dyw pawb ddim wedi bod eisiau i ni gael golwg ar ddiogelwch tân - ac mae hynny'n dipyn o sioc i ddweud y gwir."
Yn ystod yr ymchwiliad clywodd gwleidyddion hefyd bod rhai pobl sy'n byw mewn adeiladau uchel wedi bod yn cynnal profion eu hunain ar ddeunyddiau adeiladu.
Roedd argymhelliad i'r rhai sydd wedi ceisio profi deunyddiau eu hunain i gael prawf arbenigol.
'Atal trasiedi o'r fath'
Cyn y cyfarfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, John Griffiths AC: "Fe wnaethom i gyd wylio mewn arswyd wrth i ddigwyddiadau ofnadwy Tŵr Grenfell ddigwydd, ac rwyf am gael sicrwydd bod yr holl fesurau diogelwch angenrheidiol yn eu lle i atal trasiedi o'r fath yng Nghymru.
"Rydym yn gobeithio clywed gan y rhai sydd â chyfrifoldeb o ran llywodraeth leol, y cymdeithasau tai, y gwasanaethau tân ac achub a grwpiau tenantiaid hefyd.
"Yna, byddwn yn codi unrhyw faterion gyda Llywodraeth Cymru.
"Rydym am ofyn y cwestiynau mae pobl sy'n byw mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru yn eu gofyn.
"Rydym yn awyddus i gael sicrwydd bod pryderon trigolion yn cael eu clywed ac yr ymdrinnir â nhw."