Rhai ysgolion yn 'ofni cofnodi bwlio'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Sally Holland yn dweud bod angen "cysondeb ar draws Cymru"

Mae angen gweddnewid radical ar y modd y mae bwlio mewn ysgolion yn cael ei gofnodi a'i daclo, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Fe ddywed Sally Holland bod rhai ysgolion yn gyndyn o fynd i'r afael â'r mater oherwydd pryder y bydd yr ysgol yn cael enw drwg.

Mae adroddiad newydd ganddi yn dweud bod diffyg cysondeb yn y modd y mae cwynion o fwlio'n cael eu trin, gan adael rhai plant yn teimlo wedi'u hynysu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylid taclo bob ffurf ar fwlio yr un mor gadarn, ac mae'n gyfrifoldeb cyfreithiol i gael polisi bwlio mewn lle ymhob ysgol.

'Amharodrwydd i gofnodi'

Ond mewn rhai achosion, yn ôl Ms Holland, mae'r canllawiau gwrth-fwlio yn eistedd ar silffoedd ysgolion ac mae'n ymddangos nad ydyn nhw wedi cael eu darllen.

Dywedodd: "Rwyf am weld canllawiau sy'n wirioneddol ddefnyddiol, sy'n adeiladu ar brofiadau plant gan roi atebion iddyn nhw, ond sydd hefyd yn dweud wrth ysgolion sut i fonitro bwlio ac i beidio â bod ofn monitro chwaith.

"Roedd rhai pobl broffesiynol yn dweud wrthym fod yna amharodrwydd i gofnodi bwlio - eu bod yn amharod i roi enw drwg i'r ysgol am fod yna rhyw fath o dabl cynghrair neu rywbeth tebyg. Wrth gwrs dydw i ddim am weld hynny.

"Dwi am i ysgolion gan sgwrs onest gyda'u disgyblion a'r gymuned o'i chwmpas am sut y maen nhw'n taclo bwlio yn yr ysgol a beth maen nhw'n am ei wneud am y peth."

Mae ei hadroddiad - 'Sam's Story' - wedi cael ei lunio ar ôl clywed tystiolaeth gan 2,000 o blant a 300 o bobl broffesiynol yn y maes.

Mae'n pwysleisio bod yr un pryderon - beth yn union yw bwlio a'r diffyg cofnodi cyson - wedi cael eu codi tair blynedd yn ôl gan y corff goruchwylio addysg, Estyn.

Dyw'r pryderon hynny ddim wedi cael eu datrys, ac roedd y Comisiynydd Plant yn gweld hynny'n rhwystredig.

'Rhwystredig'

Ychwanegodd Ms Holland: "Mae rhai pethau wedi newid, ond mae yna bethau sylfaenol sydd dal angen eu cael yn iawn ac wrth gwrs mae'n rhwystredig, ac yn rhwystredig i blant hefyd.

"Rhaid i ni fod yn cofnodi bwlio a sicrhau bod yr ymarfer gorau ar gael i ysgolion - ry'n ni'n gwybod ei fod ar gael.

"Dylai pawb gymryd perchnogaeth o'r mater a dylai pawb fod yn rhan o'i daclo. Rhaid i ni beidio ei gadw mewn cornel dywyll fel elfen o embaras mewn bywyd ysgol.

"Gadewch i ni dderbyn ei fod yn digwydd a symud ymlaen yn bositif i'w daclo."

'Annerbyniol'

Yn eu hymatebion i'r adroddiad fe ddywedodd plant fod materion fel hil, tlodi, anabledd a rhywioldeb i gyd yn destunau bwlio, gan ddweud bod rhieni yn aml naill ai ddim yn ymateb neu yn aneffeithiol.

Mae Ms Holland nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cyfrifoldeb statudol ar ysgolion i gofnodi pob digwyddiad o bob math o fwlio, a chyhoeddi diffiniad terfynol o fwlio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Fe fyddwn ni'n ystyried adroddiad y Comisiynydd Plant a'i fwydo i mewn i'n hadolygiad o ganllawiau gwrth-fwlio.

"Dydyn ni ddim yn diodde' unrhyw fath o fwlio yn system addysg Cymru. Ry'n ni'n disgwyl i ysgolion a gwasanaethau addysg ei gwneud hi'n glir fod pob ffurf o fwlio yn annerbyniol ac i daclo bob digwyddiad yn gadarn.

"Dylai pob ysgol yng Nghymru, yn ôl y gyfraith, gael polisi ymddygiad ysgol. Fe ddylai strategaethau i daclo bwlio fod yn ganolog i'r polisi yma ac fe ddylai gael ei weithredu gan bawb yn yr ysgol."