Y chwilio am James Corfield yn parhau yn ardal Llanelwedd
- Cyhoeddwyd
Yn ystod y dydd mae dros 200 o wirfoddolwyr wedi bod yn cynorthwyo yn yr ymdrechion i ddod o hyd i ddyn sydd wedi mynd ar goll o'r Sioe Frenhinol.
Does neb wedi gweld James Corfield, 19, ers iddo adael tafarn y Ceffyl Gwyn yn Llanfair-ym-Muallt yn oriau mân bore Mawrth.
Roedd disgwyl iddo gyfarfod ei deulu ar faes y Sioe yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ond wnaeth e ddim cyrraedd.
Mewn cynhadledd i'w wasg emosiynol ddydd Iau fe wnaeth ei fam, Louise Corfield erfyn am "unrhyw fath o wybodaeth" allai fod o ddefnydd wrth ddod o hyd i'w mab.
Erfyn am wybodaeth
Ychwanegodd nad oedd ymddygiad o'r fath yn rhan o gymeriad James o gwbl i ddiflannu fel hyn.
Fe wnaeth hefyd ddiolch am yr help roedden nhw wedi'i gael dros y dyddiau diwethaf, gan erfyn eto am unrhyw wybodaeth am ddiflaniad ei mab.
"James rydyn ni'n dy garu di," meddai.
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Huw Meredydd o Heddlu Dyfed Powys fod timau arbenigol wedi bod yn parhau i chwilio drwy'r dydd.
Mae'r awdurdodau hefyd wedi gofyn i stondinwyr i fod yn wyliadwrus wrth iddyn nhw bacio'u pethau, a hynny ar ddiwrnod olaf y Sioe.
Mae afonydd lleol yn cael eu chwilio ac mae hofrennydd yr heddlu a thimau achub mynydd wedi bod yn rhan o'r ymdrechion i ddod o hyd i Mr Corfield.
Ddydd Mercher dywedodd ei fodryb, Gill Corfield, fod y teulu yn "ysu am unrhyw ddarn bach o wybodaeth am ei leoliad".
Wrth siarad ar ran y teulu dywedodd modryb Mr Corfield: "Rydym fel teulu yn ysu am unrhyw ddarn bach o wybodaeth allai fod gan rywun am ei leoliad.
"Rydym yn poeni'n ddifrifol ac yn ysu am newyddion. Rydym yn dy garu, James, dere nôl yn ddiogel."
Mae Mr Corfield yn 6'2" o daldra, yn denau gyda gwallt byr brown, ac roedd yn gwisgo crys Abercrombie & Fitch a jîns pan gafodd ei weld ddiwethaf.