Pregeth yr Eisteddfod: 'Peidiwch labelu - croesawch bawb'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Esgob Tyddewi yn dweud ei bod yn "bryd newid"

Ym mhregeth oedfa'r Eisteddfod ddydd Sul dywedodd Esgob Tyddewi fod Cristnogion yn y gorffennol wedi gwrthod derbyn "pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac ati" a thrwy hynny ychwanegodd "rydyn ni wedi anwybyddu cynifer o ddoniau a chymaint o dalent".

Ym mis Tachwedd cafodd Joanna Penberthy ei hethol i fod yn esgob newydd Tyddewi a hi yw'r esgob benywaidd cyntaf i gael ei hethol yng Nghymru. Yn ei phregeth cyfeiriodd mai hi yw 129fed esgob Tyddewi a bod 128 o'i blaen - i gyd yn ddynion.

"Rydyn ni'n dal i fyny, meddai gyda'n chwiorydd a'n brodyr Anghydffurfiol."

Ychwanegodd Esgob Penberthy nad oes gennym reswm fel Cristnogion i fod yn falch ohonon ni'n hunain.

Gwrthod cydnabod LGBT

O lwyfan y Brifwyl dywedodd yr Esgob Penberthy: "Fel Cristnogion, mae hi'n bwysig i gofio a chyfaddef ein bod ni wedi defnyddio'r Ysgrythur Lân, yn y gorffennol, i garcharu pobl, i'w condemnio, a'u cuddio: oherwydd ers talwm rydyn ni wedi gwrthod cydnabod delw Dduw yn wynebau pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac ati - LGBTQIA.

"Rydyn ni wedi gwrthod derbyn pob person fel maen nhw. Rydyn ni wedi ceisio gwasgu pob un i mewn i'r un bocs, cul a syth. Rydyn ni wedi gwrthod derbyn pobl fel mae Duw yn eu rhoi i ni.

'Mae'n bryd newid'

"Yn y gorffennol a heddiw, bu'n rhaid i Gristnogion sy'n LGBTQIA gadw yn dawel ac yn aml, esgus bod yr hyn nad ydynt. A bu hynny'n golled i ni. Rydyn ni wedi anwybyddu cynifer o ddoniau a chymaint o dalent.

"Pam ydyn ni, yn yr eglwys, mor aml, yn dodi label ar bobl eraill ac yn defnyddio hyn fel rheswm i'w cau allan? Mae'n bryd newid, dw i'n meddwl."

Aeth ymlaen i ddweud fod pwyslais yr Iesu ar gariad, ar rannu ac ar gyfiawnder ac ychwanegodd: "Yn aml, yn yr eglwys, rydyn ni'n meddwl gormod am bwy sydd i fewn a phwy sy' tu allan, am bwy sy'n iawn a phwy sy' ddim yn iawn."

Cododd ei thestun o ddameg y defaid a'r geifr gan ddweud: "Os ydyn ni eisiau dysgu sut i fod yn gynhwysol yn yr eglwys, rhaid cychwyn drwy ddathlu fod Duw wedi creu pobl i fod yn wahanol."

Fe orffennodd drwy alw ar Gymru i barhau i fod yn genedl sy'n credu mewn cyfiawnder, tegwch a chroeso. Rhaid sicrhau meddai "fod pobl newynog yn cael eu porthi, fod dieithriaid yn cael eu hymgeleddu, a bod cleifion a dioddefwyr eraill yn cael eu gwarchod."

Cymanfa Pantycelyn

Nos Sul bydd Cymanfa Ganu yr Eisteddfod, o dan arweiniad Mari Lloyd Pritchard, yn rhoi sylw arbennig i William Williams, Pantycelyn gan bod hi eleni yn dri chan mlwyddiant ers ei eni.

Yn ystod y gymanfa bydd enw cyfansoddwr y dôn fuddugol yn cael ei chyhoeddi. Yn 1983, pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni, Bro Aber oedd y dôn fuddugol - un o donau mwyaf poblogaidd cynulleidfaoedd canu yng Nghymru erbyn hyn.