Cytundeb i newid pensiynau gweithwyr dur Tata
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheoleiddwyr pensiynau wedi cymeradwyo cynllun i ailstrwythuro pensiynau Dur Prydain wrth i ymdrechion barhau i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
Roedd cwmni dur Tata wedi pwyso ar y rheoleiddwyr a'r undebau llafur i newid y cynllun pensiwn fel rhan o gytundeb ehangach i ailstrwythuro costau'r cwmni.
Yn gynharach roedd ofnau y gallai'r cwmni fynd yn fethdal, gan fygwth dyfodol swyddi 3,500 o weithwyr ym Mhort Talbot.
Mae'r cytundeb yn datgysylltu Cynllun Pensiwn Dur Prydain oddi wrth cwmni Tata.
Uno gwaith dur
Bydd Tata yn talu £550m i'r gronfa bensiwn ac yn rhoi cyfran ecwiti o 33% yn Tata Steel UK i'r gronfa.
Mae disgwyl i'r cytundeb baratoi'r ffordd i Tata wneud cytundeb ehangach i uno eu gwaith cynhyrchu dur yn Ewrop gyda'r cwmni Almaeneg Thyssen Krupp.
Bydd y cytundeb yn diogelu dyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, ond fe fydd pensiynwyr Dur Prydain yn derbyn gostyngiad yn eu taliadau pensiwn.
Mae disgwyl i Tata fuddsoddi £1bn ym Mhort Talbot yn dilyn y cytundeb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2017