Andrew RT Davies yn galw am weinidog Brexit i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies wedi annog Carwyn Jones i ad-drefnu ei dîm i greu rôl gweinidog Brexit

Mae angen gweinidog Brexit yn Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi diddordebau'r wlad "wrth galon" trafodaethau, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd Andrew RT Davies nad oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn gallu delio â "her gyfansoddiadol fwyaf ein cyfnod" a rheoli'r wlad ar yr un pryd.

Fe wnaeth annog Mr Jones i ad-drefnu ei dîm i roi "cynrychiolaeth gref ac adeiladol" i weinidogion y DU.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Mr Jones wedi bod yn "ymladd yn gryf" dros Gymru ers canlyniad y refferendwm.

Gormod o waith i un?

Cyfeiriodd Mr Davies at adroddiad gan y Cynulliad yn beirniadu'r llywodraeth am ddiffyg cyswllt gyda gweinidogion Iwerddon i drafod effaith Brexit ar borthladdoedd Cymru.

Dywedodd: "Dros 400 diwrnod ar ôl i Gymru bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, does gan Gymru ddim gweinyddiaeth Brexit, yn wahanol i'r Alban a San Steffan.

"Er mwyn sicrhau bod diddordebau Cymru yn aros wrth galon trafodaethau Brexit, rydyn ni angen adran dan arweiniad gweinidog profiadol i'r pwrpas yma."

Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llywodraeth bod Carwyn Jones yn ymladd dros Gymru yn y trafodaethau

Ychwanegodd Mr Davies bod y gwaith yn "ormod i un dyn yn unig" a bod "perygl go iawn" y byddai'r prif weinidog yn colli gafael ar ei gyfrifoldebau wrth "geisio cyflawni materion domestig a her gyfansoddiadol fwyaf ein cyfnod".

Dywedodd y byddai gweinidog Brexit i Gymru yn rhoi "cynrychiolaeth gref ac adeiladol i Lywodraeth y DU, a galluogi gweithio gwell gyda'r gwledydd datganoledig".

'Ymladd yn gryf'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y prif weinidog wedi bod yn "ymladd yn gryf dros ddiddordebau Cymru ers i ganlyniad y refferendwm ddod i'r amlwg".

Ychwanegodd bod Mr Jones yn y sefyllfa gryfaf i arwain ar Brexit oherwydd y "pwysigrwydd a'r effaith dros bob portffolio".

Dywedodd y llefarydd bod Mr Jones wedi cyfarfod â Phrif Weinidog y DU, Ysgrifennydd Brexit, a thrafodwr yr UE, Michel Barnier, yn ogystal ag arweinwyr yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Yn ôl y llefarydd mae'r prif weinidog yn cael cymorth yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, a galwodd ar Mr Davies i roi pwysau ar ei gydweithwyr Ceidwadol yn San Steffan i gadw at eu haddewid i "gynnal trafodaethau Brexit gyda'r llywodraethau datganoledig".