Cwest tân Llanrwst: 'Dim arwydd o nam ar sychwr dillad'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwilydd tân wedi dweud wrth gwest dau ddyn fu farw wedi tân yn Sir Conwy nad yw'r difrod i beiriant sychu dillad yn cyd-fynd â nam trydanol.
Bu farw Doug McTavish, 39 oed, a Bernard Hender, 19, yn y tân yn Llanrwst ym mis Hydref 2014.
Ym mis Ebrill clywodd y cwest bod fflamau wedi eu gweld yn dod o sychwr dillad yn eu fflat.
Ond dywedodd yr arbenigwr John Loud y byddai'n disgwyl gweld difrod mewn dau le petai nam trydanol wedi dechrau'r tân.
Dywedodd Mr Loud hefyd y gallai nam i olau, switsh neu haearn smwddio fod yn gyfrifol am ddechrau'r tân.
Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun y gallai difrod i'r tri fod yn arwydd o fan dechrau'r tan neu'n arwydd o ddifrod oherwydd y fflamau.
Gwrthododd Mr Loud honiad y gallai nam ar ddrws y peiriant fod yn gyfrifol oherwydd bod switsh y peiriant i ffwrdd ar y pryd.
Ond ychwanegodd bod y sefyllfa lle bod y tân wedi dechrau tra bod y peiriant i ffwrdd yn bosibilrwydd bychan.
Roedd Mr Loud yn rhoi tystiolaeth gyda Dr Delmar Morrison, wnaeth ddweud nad oedd yn bosib diystyru tân digymell.
Dywedodd y ddau nad oedd modd bod yn hollol sicr beth oedd achos y digwyddiad.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2017