Mwy o gwynion am y GIG yng Nghymru medd adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Nick Bennett yn "siomedig" fod nifer y cwynion iechyd wedi cynyddu

Bu cynnydd o 8% yn nifer y cwynion am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, medd Ombwdsmon Gwasanaethu Cyhoeddus Cymru.

Mae adroddiad Nick Bennett hefyd yn dweud bod 16% o gwynion wedi cael canlyniad cadarnhaol, naill ai oherwydd camau i unioni pethau neu drwy gadarnhau'r gwyn a chytuno ar gamau gweithredu.

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2016-17, mae'r Ombwdsmon yn nodi ei fod wedi derbyn 2,056 o gwynion am wasanaethau cyhoeddus Cymru, a bellach mae 38% o'r cwynion yn ymwneud â iechyd.

Mae'r Ombwdsmon wedi clustnodi Swyddogion Gwella i bump o fyrddau iechyd Cymru - Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda - ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gwasanaethu gogledd Cymru, yn destun pryder.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw wedi gweld adroddiad yr Ombwdsmon eto, ond y bydden nhw'n ei "ystyried yn ofalus" pan maen nhw'n ei dderbyn.

line break
GIG Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Swyddogion Gwella wedi eu clustnodi i bump o fyrddau iechyd Cymru

Cyd-destun

Mae meddygon teulu a staff gofal sylfaenol yng Nghymru yn delio a 18 miliwn o achosion y flwyddyn, mae 'na 3m o apwyntiadau mewn ysbytai, a 750,000 o achosion bob blwyddyn lle mae cleifion yn gorfod aros am o leia' noson am driniaeth.

O ystyried y galw am ofal a'r ffaith ei fod yn cynyddu o hyd, nid yw hi'n syndod mai cwynion am y gwasanaeth iechyd, yn hytrach na chynghorau a gwasanaethau cyhoeddus eraill sy'n gyfrifol am drwch gwaith yr ombwdsmon - 38% o'r holl gwynion y mae'n eu derbyn.

Un o bryderon mwyaf Nick Bennett yw bod nifer y cwynion sy'n cael eu hymchwilio a'u cadarnhau yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd yn parhau i gynyddu. Bwrdd sydd wrth gwrs mewn mesurau arbennig - ac o dan oruchwyliaeth fanwl Llywodraeth Cymru.

Yn y gorllewin, er bod nifer y cwynion gafodd eu derbyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda gryn dipyn yn uwch na'r llynedd, roedd nifer yr achosion gafodd eu cadarnhau wedi haneru, ac yn ôl Nick Bennett mae hynny'n galonogol.

Felly hefyd y ffaith fod cwynion am Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi gostwng o 25%.

Ond yn gyffredinol yn ôl Mr Bennett mae 'na ddiwylliant o ofn a gweld bai yn dal i fodoli mewn cyrff cyhoeddus, sy'n golygu fod prosesau i ddelio â chwynion weithiau yn ddiffygiol ac anfoddhaol.

Er mwyn mynd i'r afael â hynny mae ombwdsmon wedi bod yn cynnal seminarau gyda chyrff iechyd i wella'u prosesau, ac mae'r ombwdsmon unwaith eto yn galw ar y Cynulliad i basio deddfwriaeth newydd i gryfhau ei bwerau ei hun.

Ond tra bo'r cynnydd mewn cwynion ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn destun gofid, fe allai hefyd awgrymu fod cleifion bellach yn teimlo'n fwy parod godi'i llais ac amlygu'u pryderon pan nad ydyn nhw'n fodlon â'r gofal ma nhw'n ei gael.

line break

Dywedodd Nick Bennett: "Mae'r cynnydd cyson mewn cwynion am gyrff y GIG yn achosi pryder. Un ffactor o bwys yw nifer y cwynion a dderbyniwyd am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd fy Swyddog Gwella yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y parheir i ddysgu gwersi.

"Mae tystiolaeth fod diwylliant o ofn a gweld bai yn dal i fodoli mewn rhai cyrff yn y sector cyhoeddus ac roedd fy adroddiad thematig 'Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Feunyddiol: Dysgu Gwersi o Ddelio'n Wael â Chwynion' yn tynnu sylw at feysydd pwysig i'w gwella.

"Ond, ar ôl y seminar ar gwynion iechyd a gynhaliwyd gan fy swyddfa'n ddiweddar, rwy'n falch o weld bod staff byrddau iechyd yn awyddus i gryfhau'r trefniadau llywodraethu, hyfforddiant a chasglu data er mwyn gwella'r ffordd o ddelio â chwynion.

"Byddwn yn annog y Cynulliad i fwrw ymlaen â'r bil Ombwdsmon drafft newydd yn ystod tymor yr hydref. Os caiff ei phasio, rwy'n ffyddiog y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi modd i ganfod gwasanaeth gwael yn haws ac i ddelio â'r mater yn fwy effeithlon."

Ymateb

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pob corff y GIG yng Nghymru yn gweithio'n galed i atal cwynion a delio gyda nhw yn y modd priodol pan maen nhw'n codi.

"Yn ogystal â'r gwaith sydd eisoes yn digwydd o fewn y GIG, rydyn ni'n croesawu cymorth yr Ombwdsmon gyda'r swyddogion gwelliant mae wedi gosod yn eu lle.

"Mae pob cwyn i'r GIG yn cael ei gymryd o ddifrif, ac rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd eu hymchwilio'n drylwyr. Rydyn ni'n gwerthfawrogi adborth ac yn annog pryderon i gael eu codi cyn gynted â phosib fel bod modd delio â nhw'n sydyn ac er mwyn parhau i wella gwasanaethau.

"Ar draws Cymru rydyn ni'n gwybod fod bodlonrwydd cleifion gyda'r GIG yn parhau i fod yn uchel tu hwnt."

nyrsFfynhonnell y llun, Thinkstock

Ychwanegodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydyn ni'n gwerthfawrogi pob adborth am ein gwasanaethau. Mae hyn rhoi cyfle i ni ddysgu a gwella.

"Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau ein bod ni'n ymateb i gwynion yn brydlon, ac mae hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth i Gleifion (PAS) sydd wedi'i gyflwyno yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar.

"Mae hyn yn rhoi cefnogaeth ar y safle i gleifion ac ymwelwyr ac mae wedi cael ymateb da. Rydyn ni nawr yn edrych i gyflwyno system debyg ar draws y gogledd.

"Rydyn ni yn y broses o adolygu'r ffordd rydyn ni'n delio â phryderon er mwyn sicrhau eu bod nhw'n golygu rhywbeth i'r rheiny sy'n eu codi. Mae'n bwysig ein bod ni'n dysgu pan aiff pethau o'i le fel bod modd gwella pethau nawr ac yn y dyfodol."