Cannoedd yn cofio James Corfield yn Nhrefaldwyn
- Cyhoeddwyd

Daeth dros 600 o bobl i ddigwyddiad er cof am ddyn ifanc fu farw ar ôl mynd ar goll o'r Sioe Amaethyddol Frenhinol fis diwethaf.
Cafodd corff James Corfield, 19 o Drefaldwyn, ei ddarganfod yn Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt ddiwedd Gorffennaf.
Roedd wedi bod ar goll o'r Sioe Frenhinol ers rhai dyddiau.
Mewn dathliad o'i fywyd yng Nghlwb Criced Trefaldwyn, lle roedd y dyn ifanc yn chwarae, roedd teyrngedau iddo gan ei frawd a'i chwaer.

Roedd pobl yn gwisgo glas i'r digwyddiad, fel yr oedd James pan aeth ar goll.
Cafodd balwnau glas ac addurniadau glas eu gosod yn y seremoni, roedd cyfle i bobl rannu eu hatgofion, ac roedd cerddoriaeth a barddoniaeth er cof amdano.
Dywedodd hyfforddwr pêl-droed James, Clive McNamee y byddai James bob tro yn rhoi o'i orau ar y cae, ond bod criced a bod ar fferm y teulu bob tro yn dod yn gyntaf iddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017
- Cyhoeddwyd1 Awst 2017