Marwolaeth Llanbedrog: Cyhuddo pedwar dyn
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu'r gogledd wedi cyhuddo pedwar dyn wedi i Peter Robert Colwell, 18 oed gael ei saethu mewn maes parcio tafarn ym Mhen Llŷn.
Daeth swyddogion o hyd i Mr Colwell o Gapel Uchaf, Clynnog Fawr yn farw ym maes parcio tafarn y Llong ym mhentref Llanbedrog wedi'r digwyddiad yn oriau man bore Sul 5 Chwefror eleni.
Fe ddaeth archwiliad post mortem i'r casgliad fod Mr Colwell wedi marw o un ergyd gwn i'w ben.
Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Mercher eu bod wedi cyhuddo pedwar dyn o droseddau yn ymwneud a drylliau.
Roedd y dynion wedi cael eu harestio yn wreiddiol ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi adolygu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Fe fydd y pedwar dyn yn ymddangos o flaen ynadon lleol ar 31 Awst.
Dywedodd y Prif Swyddog Ymchwiliad, Ditectif Arolygydd Gerwyn Thomas o Heddlu Gogledd Cymru: "Yn dilyn ymchwiliad cynhwysfawr ac ymgynghoriad rheolaidd gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae pedwar dyn yn eu hugeiniau cynnar yn adnabod Peter Colwell wedi cael eu cyhuddo o droseddau drylliau tanio.
"Nid oedd digon o dystiolaeth i fwrw ymlaen gydag unrhyw gyhuddiad arall ac mae teulu Peter, sy'n dal i dderbyn cefnogaeth gan Swyddogion Cyswllt Teuluol, wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf yma."
Fe ychwanegodd y Ditectif Thomas: "Rydym yn cydymdeimlo â nhw. Gan fod y mater bellach ger bron y llys nid fyddai'n addas i mi ychwanegu dim byd ymhellach ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2017