Teyrnged i Peter Colwell gafodd ei saethu yn Llanbedrog
- Cyhoeddwyd
Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn 18 oed gafodd ei ddarganfod yn farw yn Llanbedrog dros y penwythnos.
Daw ar ôl i bedwar dyn gael eu rhyddhau ar fechnïaeth wedi'r digwyddiad yn oriau man bore Sul.
Daeth swyddogion o hyd i Peter Robert Colwell o Gapel Uchaf, Clynnog Fawr yn farw ym maes parcio tafarn y Llong ar ôl iddo ddioddef anafiadau saethu.
Wrth i'r ymchwiliad barhau, mae Mr Colwell wedi ei ddisgrifio fel unigolyn "tawel a chyfeillgar" gan un oedd yn ei adnabod.
'Cydymdeimlad dwysaf'
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd pennaeth Ysgol Botwnnog, Dylan Minnice: "Rydym, fel ysgol, yn drist iawn o glywed y newyddion trychinebus am farwolaeth Peter.
"Roedd Peter yn ddisgybl tawel, cyfeillgar oedd bob amser yn rhoi o'i orau.
"Cafodd ei ddiwydrwydd ei wobrwyo pan enillodd wobr myfyriwr gorau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 yng Ngholeg Glynllifon yn ystod ei flwyddyn olaf yma yn Ysgol Botwnnog.
"Gyrrwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a'i ffrindiau."
Ddydd Llun, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Iestyn Davies: "Er bod hwn yn ddigwyddiad trasig sy'n cael ei drin fel ymchwiliad llofruddiaeth, rydym yn cadw meddwl agored o ran amgylchiadau'r digwyddiad."
Ychwanegodd: "Rydym yn cydymdeimlo'n arw â theulu a ffrindiau Peter Colwell ar yr amser anodd hwn."
Mae swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2017